Mwy o wyntoedd cryf a glaw ar draws Cymru ar ôl Storm Éowyn
Bydd mwy o wyntoedd cryf a glaw ar draws Cymru ddydd Sul gyda rhybuddion melyn mewn grym tan ddydd Mawrth.
Mae rhybudd melyn am wynt mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng 8.00 a 17.00 ddydd Sul.
Mae yna hefyd rybudd melyn am law mewn grym ar gyfer bob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn rhwng 8.00 ddydd Sul a 6.00 ddydd Llun.
Bydd rhybudd pellach o wynt rhwng 6.00 ddydd Llun a 6.00 ddydd Mawrth i bob sir yng Nghymru heblaw ar Ynys Môn.
Daw’r tywydd stormus wedi i’r Swyddfa Dywydd ddweud mai Storm Éowyn a darodd ddydd Gwener oedd y cryfaf mewn 20 i 30 mlynedd mewn rhai rhannau o’r DU.
Mae’r tywydd garw ddydd Sul yn ganlyniad i storm newydd sy’n symud o’r de. Mae swyddfa dywydd Sbaen wedi ei alw’n Storm Herminia.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y bydd 10 i 20mm o law yn disgyn, a hyd at 30 i 50mm ar dir uchel.
Efallai y bydd cyfnod trwm arall o law nos Sul ddod â chymaint ag 80mm.
“O ystyried y glaw trwm diweddar, gallai’r glaw ychwanegol hwn arwain at rywfaint o ddŵr wyneb lleol a llifogydd o afonydd," meddai’r Swyddfa Dywydd.
Roedd stormydd yn cyrraedd ar yr un pryd oherwydd lleoliad y jetlif, meddai meteorolegydd y Swyddfa Dywydd Jonathan Vautrey.
“Mae’r tywydd yn cael ei yrru gan don oer sydd wedi bod dros yr Unol Daleithiau a Chanada yn ddiweddar,” meddai.
“Mae’r cyferbyniad rhwng yr aer oer a’r aer ysgafn o’r cyhydedd yn helpu i yrru jetlif pwerus iawn ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd.”