Elan Davies: Perfformiad Cymraeg yn ennill am y tro cyntaf mewn gwobrau theatr
Elan Davies: Perfformiad Cymraeg yn ennill am y tro cyntaf mewn gwobrau theatr
Mae perfformiad Cymraeg wedi ennill am y tro cyntaf yn un o wobrau pwysicaf diwydiant theatrau y Deyrnas Unedig.
Enillodd Elan Davies wobr y Perfformiwr Gorau yn y Stage Debut Awards am ei rhan yn y ddrama Imrie a gafodd ei llwyfannu Theatr y Sherman, Caerdydd.
Dyma’r tro cyntaf i berfformiwr mewn cynhyrchiad Cymraeg ennill yn y seremoni wobrwyo sydd wedi ei gynnal ers 2017.
Nod y gwobrau yw tynnu sylw at actorion, awduron, cyfarwyddwyr a chyfansoddwyr newydd yn y diwydiant perfformio.
Dywedodd Elan: “Mae mor bwysig cael ein cydnabod mewn sioe wobrwyo fel hon, yn enwedig ar gyfer cynhyrchiad Cymraeg.”
Inline Tweet: https://twitter.com/TheStage/status/1708566379723448631
Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Llundain ddydd Sul.
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Rose-Ayling Davies, cyn-actores yr opera Sebon EastEnders a enillydd Strictly Come Dancing.
Enillodd y wobr West End Debut am ei pherfformiad hi yn As You Like It yn Soho Place – ei drama gyntaf yn y West End.
Dywedodd golygydd The Stage, Alistair Smith: “Mae ein henillwyr gwych yn amlygu cymaint o dalent sy’n dod i’r amlwg ar draws theatrau Prydain.
“Rwy’n arbennig o falch ein bod wedi llwyddo eleni i gydnabod ein henillydd cyntaf erioed mewn perfformiad Cymraeg."