Newyddion S4C

11 o bobl wedi marw yn dilyn tân mewn clwb nos yn Sbaen

01/10/2023
Tan Murcia, Sbaen

Mae o leiaf 11 o bobl wedi marw mewn tân mewn clwb nos yn ninas Murcia, yn ôl yr awdurdodau yn Sbaen.

Dechreuodd y tân yng nghlwb nos poblogaidd Teatre, sydd wedi'i leoli yn ardal Atalayas, tua 06:00 amser lleol (04:00 GMT).

Dywedodd yr awdurdodau y gallai'r nifer y marwolaethau godi wrth i'r gwasanaethau brys barhau i chwilio am bobl sydd ar goll.

Mae pedwar yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty wedi iddynt anadlu mwg o'r tân.

Dyw hi ddim yn glir beth achosodd y tân, a ddechreuodd pan oedd y clwb yn dal yn brysur.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.