Llywodraeth America yn osgoi cael ei gau i lawr ar ôl cytundeb funud olaf

01/10/2023
Cyngres America

Mae Cyngres yr Unol Daleithiau wedi osgoi cau lawr rhannau o'r llywodraeth o drwch blewyn, ar ôl cyrraedd cytundeb funud olaf ar becyn ariannol newydd.

Cafodd y cytundeb ei arwyddo gyda dim ond tair awr yn weddill cyn terfyn amser y gyllideb bresennol.

Bydd yn golygu y bydd asiantaethau'n gallu parhau i weithredu fel arfer am y 45 diwrnod nesaf.

Fodd bynnag, nid yw'r setliad dros dro hwn yn cynnwys cymorth ariannol i Wcráin.

Pe bai cytundeb heb ei arwyddo, byddai pedair miliwn o weithwyr y llywodraeth ddim yn derbyn tâl, a byddai parciau cenedlaethol a rheoleiddwyr ariannol yn cael eu gorfodi i gau eu drysau.

Byddai milwyr ar ddyletswydd weithredol wedi gorfod gweithio heb dâl, gyda chymorth maeth i saith miliwn o famau yn y wlad wedi'i hatal.

Rhoddwyd y cynnig am y bil newydd ar gyfer setliad ariannol dros dro gan Lefarydd y Tŷ Gweriniaethol, Kevin McCarthy, wrth iddo gefnu ar ofynion rhai aelodau ei blaid a rhoi ei swydd ei hun mewn perygl.

Image
Kevin McCarthy

Cafodd y mesur ei gymeradwyo gan y Senedd o 88 bleidlais i naw.

Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi croesawu’r cytundeb munud olaf, ac yn dweud ei fod wedi atal “argyfwng diangen a fyddai wedi achosi poen diangen i filiynau o Americanwyr sy’n gweithio’n galed”.

Lluniau: Cyngres America (Wally Gobetz / Flickr) a Kevin McCarthy (swiss-image.ch / Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.