Newyddion S4C

Dau ddyn wedi arestio am 'wawdio' cefnogwyr trwy ddangos llun o Bradley Lowery

01/10/2023
Bradley Lowery

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn adroddiadau bod cefnogwyr pêl-droed wedi defnyddio llun o Bradley Lowery i wawdio cefnogwyr Sunderland.

Cafodd ymchwiliad ei lansio yn dilyn gêm gartref Sheffield Wednesday yn erbyn Sunderland nos Wener wedi i luniau ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol o ddau gefnogwr yn dal llun o Bradley Lowery ac yn chwerthin.

Roedd Bradley yn gefnogwr brwd CPD Sunderland cyn iddo farw o ganser yn chwech oed yn 2017.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog fod dau ddyn - 31 a 27 oed - yn cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o gythruddo gwedduster cyhoeddus.

Cafodd y ddau eu harestio nos Sadwrn ac mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Sheffield Wednesday yn flaenorol y byddan nhw'n cefnogi’r ymchwiliad ar ôl i ddelwedd o’r drosedd honedig ymddangos ar-lein.

“Rydyn ni’n condemnio’r ymddygiad gwarthus a hollol druenus yma,” meddai llefarydd.

“Ni allwn ond ymddiheuro am y trallod a achoswyd i deulu a ffrindiau Bradley.”

Roedd Bradley yn gefnogwr Sunderland, a gafodd ddiagnosis o niwroblastoma - math prin o ganser - pan oedd yn 18 mis oed.

Aeth ymlaen i fod yn fasgot y clwb a daeth yn "ffrindiau gorau" gyda'i arwr, yr ymosodwr Jermain Defoe.

Llun: Bradley Lowery gyda rheolwr Lloegr, Gareth Southgate. (PA) 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.