Dyn ar feic trydan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
Mae dyn oedd ar feic trydan wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ar gefnffordd yr A4042.
Cyhoeddodd parafeddygon fod y dyn 26 oed, o Gasnewydd, wedi marw yn y fan a’r lle yn dilyn y digwyddiad gyda Vauxhall Corsa.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi lansio apêl am dystion.
Maen nhw'n apelio am unrhyw un oedd yn teithio ar yr A4042 rhwng 00:15 a 00:45 fore Sadwrn.
Cafodd gyrrwr y car, llanc 18 oed o Bont-y-pŵl, fân anafiadau yn y ddamwain, a ddigwyddodd tua 00:45 ddydd Sadwrn.
Mae'r A4042 yn rhedeg o Gasnewydd i'r Fenni ac mae'n cynnwys ffyrdd sengl a deuol.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2300331324.