Rygbi: Cymru yn curo'r Unol Daleithiau wrth baratoi am gystadleuaeth WXV
Mae merched Cymru wedi curo'r Unol Daleithiau 33-18 mewn gêm gyfeillgar ddydd Sadwrn.
Cafodd y gêm gyfeillgar ei chynnal ym Mharc Eirias, Bae Colwyn brynhawn ddydd Sadwrn fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cystadleuaeth Rygbi WXV yn Seland Newydd.
Sgoriodd Cymru cais wedi pum munud yn unig wrth i Alisha Butchers gwthio dros y llinell yn dilyn sgrym. Keira Bevan ciciodd y trosiad i roi Cymru ar y blaen o saith bwynt i ddim.
Ciciodd Gabby Cantorna cig gosb i’r UDA wedi deuddeg munud i ddod a’r Americanwyr nôl o fewn pump.
Cymru oedd â’r meddiant am gyfnod hir wedi cig gosb yr Eagles, ac fe ddaeth eu hail gais drwy Keira Bevan.
Fe wnaeth hi bigo’r bêl i fyny o ryc dau fetr o linell gais America a deifio i sgorio ei chais cyntaf o’r prynhawn a chicio’r trosiad hefyd.
Lisa Neumann sgoriodd gais olaf Cymru yn yr hanner cyntaf wrth i’r bêl cael ei symud o’r asgell chwith i’r dde cyn iddi dirio yn y gornel. 19-3 i Gymru ar yr egwyl.
Dechreuodd yr Unol Daleithiau’r ail hanner yn gryf wrth i Sarah Levy sgorio yn y gornel wedi munud a hanner yn unig.
Mewn ymateb fe sgoriodd Cymru 10 munud yn ddiweddarach o sgarmes yn dilyn tafliad. Alex Callender yn sgorio a Keira Bevan gyda’r trosiad.
Sgoriodd yr UDA gyda sgarmes ei hunain wedi 60 munud trwy Freda Tufana, i wneud y sgôr yn 26-13 i Gymru gyda 20 munud yn weddill.
Fe sgoriodd y Cymry unwaith yn eto wedi 72 munud wrth i Alex Callender dirio'i hail gais o’r prynhawn.
Gyda phedair munud yn unig yn weddill fe sgoriodd America o sgarmes unwaith eto.
Ond roedd amser am un cais arall, wrth i Gymru sgorio yn dilyn sgarmes arall drwy'r eilydd Sioned Harries, i sicrhau buddugoliaeth swmpus 38-18.
Llun: Asiantaeth Huw Evans