Newyddion S4C

20mya: Tagfeydd ar draffyrdd Cymru wrth i yrwyr gynnal protest 'Gyrru'n Araf'

30/09/2023
Protest Traffig

Roedd tagfeydd ar draffyrdd Cymru fore Sadwrn wrth i yrwyr gynnal protest yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya newydd.

Fe wnaeth nifer o geir cymryd rhan yn y brotest ‘Gyrru’n Araf’ ar ffyrdd yr M4 yn ne Cymru a’r A55 ac A483 yn y gogledd.

Bu’r ceir yn gyrru ar gyflymder 30 milltir yr awr ar hyd y traffyrdd, gyda gyrwyr yn cael eu hannog i yrru y tu ôl i’w gilydd mewn rhesau sengl.

Dywedodd y trefnwyr fod y protest wedi ei chynnal er mwyn gwrthwynebu'r polisi a gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 17 Medi, i newid y terfyn cyflymder ar nifer fawr o ffyrdd y wlad o 30mya i 20mya.

Mae deiseb ar wefan Senedd Cymru sydd yn gwrthwynebu’r newid bellach wedi casglu dros 450,000 o lofnodion.

Fe gafodd y daith yn y de ei chynnal rhwng Casnewydd ac Abertawe, gyda cheir yn teithio i'r naill gyfeiriad.

Yn y gogledd, cafodd y brotest ei chynnal rhwng Wrecsam a Bangor.

Roedd yr heddlu yn bresennol ar y ffyrdd yn y de i gyfeirio’r traffig oedd ddim yn rhan o’r brotest i yrru heibio.

Fe wnaeth asiantaeth Traffig Cymru adrodd fod tagfeydd ar y ffyrdd yn ystod cyfnod y brotest.

Nod y polisi yn ôl Llywodraeth Cymru yw achub bywydau a gwneud cymunedau yn fwy diogel i bawb.

“Mae hyn wedi cael ei ymchwilio’n drylwyr, ei drafod, a phleidleisio arno nifer o weithiau yn y Senedd,” medden nhw.

"Bu ymgynghori helaeth ac mae wedi cael ei dreialu mewn cymunedau ledled Cymru."

Llun: Facebook/Andy Lowe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.