'Sioc enfawr': Chwaraewr rygbi o Gymru yn edrych tua’r dyfodol ar ôl i’w glwb fynd i’r wal
'Sioc enfawr': Chwaraewr rygbi o Gymru yn edrych tua’r dyfodol ar ôl i’w glwb fynd i’r wal
“Oedd e’n gyfarfod caled. Roedd pawb yn drist, yn grac - oedd yr ystafell yn llawn dryswch. Doedd neb rili yn deall beth oedd yn digwydd ar y pryd.”
Toc cyn 08.00 fore dydd Iau, fe gafodd bywydau chwaraewyr rygbi proffesiynol Jersey Reds eu newid yn gyfan gwbl.
Yn lle mynd i’r maes awyr i hedfan ar gyfer gêm yn erbyn Cornish Pirates, fe gafodd y chwaraewyr gyfarwyddyd i gwrdd yn y clwb am gyfarfod ar unwaith.
Yno, fe wnaethon nhw glywed nad oedd y clwb bellach yn gweithredu fel busnes, ers y diwrnod blaenorol; a byddai’r Jersey Reds yn cael ei diddymu oni bai fod darpar brynwr yn dod i’r amlwg yn ‘y tymor byr iawn’.
Doedd dim arian bellach gan y clwb, dim ffordd o dalu chwaraewyr, dim ffordd o chwarae gemau. Bywoliaeth 70 o chwaraewyr a staff yn dod i ben ar unwaith.
“Oedd e’n sioc enfawr,” meddai Alun Lawrence, y cyn flaen-asgellwr dros Gaerdydd a Chymru Dan 20.
“Oeddwn ni i fod i chwarae’n erbyn Cornish Pirates nos Wener ag oeddan ni’n hedfan 09.20 bore Iau. Codais i am ryw 7 o’r gloch ac roedd neges ar WhatsApp gan Harvey [Biljon, Cyfarwyddwr Rygbi Jersey Reds], yn dweud fod angen i bawb ddod mewn am gyfarfod.
“Yn amlwg mae pawb yn meddwl, beth uffar mae hyn yn mynd i fod? Ni fod i hedfan mewn dwy awr. Wnaeth pawb gyrraedd y clwb ac wedyn dywedodd Mark Morgan [Cadeirydd Jersey Reds] wrthon ni - s’dim arian, dim swydd, popeth wedi gorffen.
“Oedd e’n gyfarfod caled, oedd pawb yn drist yn grac, oedd yr ystafell yn llawn dryswch. S’neb rili yn deall be’ oedd yn digwydd ar y pryd. Oedd e’n drist, wnaeth rhai pobol adael, rhai aros, neb rili yn gwybod beth i wneud. Dryswch a thristwch odd y teimladau mwyaf rili.”
Inline Tweet: https://twitter.com/alunlawrence1/status/1707344900021232046?s=20
A oedd y chwaraewyr a staff wedi clywed unrhyw awgrym o flaen llaw y byddai hyn yn digwydd?
“Na, doedd dim rhybudd i fod yn hollol onest,” ychwanega Alun. “Mis yn ôl, oedden ni wedi cael ein talu ar y diwrnod ond cwpwl o oriau yn hwyr, ond roedd Mark wedi dweud doedd hynny ddim byd i wneud â faint o arian oedd gan y clwb. Oedd neb yn gallu gweld hyn yn dod. Oedd ddim fath o hint o gwbl.
“Trwy’r amser dwi di bod yma, ma’ pawb di dweud does dim byd yn bod, mae arian gan y clwb ac mae pawb yn mynd i fod yn iawn. Oedden nhw’n defnyddio’r geiriau ‘y’n ni’n financially stable’.
“Ond wedyn ni’n ffeindio allan bod un investor wedi tynnu mas am 14.30 dydd Mercher, ac am 17.30 dydd Mercher oedd y clwb wedi cease trading, fel maen nhw’n dweud. So mewn mater o oriau oedd dim swydd ‘da pawb, ac wedyn cyfarfod y bore wedyn i ddweud s’dim arian. Oedd e’n anhygoel am bob rheswm wrong, oedd e’n galed iawn.”
“Lle special”
Ers ymuno â Jersey o Gaerdydd ym mis Ionawr 2022, mae Alun wedi bod yn rhan ganolog o gyfnod mwyaf llewyrchus yn hanes clwb.
Ar ôl ennill ail haen rygbi Lloegr, yr RFU Championship tymor diwethaf am y tro cyntaf erioed, fe enillon nhw yn erbyn un o gewri’r Premiership, Caerfaddon, mewn gêm gwpan dim ond bythefnos yn ôl.
Roedd Alun yn un o chwe chwaraewr o Gymru yn y garfan bresennol, gan ddilyn ôl traed chwaraewyr rhyngwladol fel Kieran Hardy a Callum Sheedy, sydd yn ystyried eu cyfnodau gyda Jersey fel rhai hollbwysig yn eu datblygiad.
Nawr, bydd Aled yn symud o’r ynys sydd wedi cynnig gymaint o brofiadau iddo.
“Ni di gweithio’n hynod o galed yn curo Caerfaddon, o’r Uwch Gynghrair, am y tro cyntaf yn hanes Jersey Reds, a phythefnos wedyn, does dim swydd, dim arian.
“Oeddwn i’n hollol hapus yma. Oni ‘di dod o Gaerdydd a oeddwn i ddim yn chwarae gymaint â hoffwn i yno, so des i mas tua Ionawr 2022, so oni’n hapus i gael y cyfle i chwarae rygbi eto ac wedyn nes i benderfynu aros. Oeddwn i’n rili joio.
“Roedd blwyddyn diwethaf yn special iawn, oedd hwnna yn rhywbeth fydda’i byth yn anghofio. Oedd o probably y mwyaf fi di mwynhau rygbi i fod yn hollol onest, ac i orffen gydag ennill y Championship, mae fe’n galed rhoi mewn i geiriau sut fath o deimlad oedd e.
“Mae Jersey ‘da perthynas da’r Cymry, ambell waith oedd pobol yn galw ni y pumed region o Gymru oherwydd oedd shwt gyment o Gymry yn y garfan. Mae Kieran Hardy a Callum Sheedy ‘di bod yma o’r blaen, ac mae lot ohonom yma nawr, fel Daf Hughes, Tim Grey, Huw Owen, Ben Burnell a Joe Peard.
“Mae e’n lle special ac mae e di bod yn rugby club special iawn i fi a fydda’i byth yn anghofio fy amser i fan hyn.”
Dyfodol
Nawr mae’r meddwl yn troi tua’r dyfodol, wrth i Alun a’i bartner Nancy wneud trefniadau i ddychwelyd i Bontypridd.

“Mae teuluoedd gyda’r bechgyn, mae rhai gyda gwraig, mae partneriaid gan bawb mwy neu lai, felly nid just ni mae’n effeithio. Mae teuluoedd yn cael eu heffeithio hefyd, a ni’n hollol ddibynnol arnyn nhw nawr.
“Y prif beth fi’n meddwl am fwyaf ar hyn o bryd yw fy mhartner. Mae gen hi swydd, mae angen iddi hi gael sgwrs dydd Llun gyda swydd hi am beth mae hi’n mynd i wneud. Wedyn fi’n credu o fewn pythefnos, byddan ni wedi gadael, byddan ni gartref, nôl yng Nghymru.
“Fi ‘di cael ambell sgwrs ‘da clybiau yng Nghymru ond dwi ddim wedi cael lot o amser i feddwl am beth fi mynd i wneud, a sut ti’n mynd i wneud e.
“Fi moyn mynd gartre’, cymryd bach o amser i weld y teulu, gwneud yn siŵr fi’n wneud y penderfyniad cywir i fi o’r rhan fy ngyrfa ond hefyd meddwl am fy mhartner.
“Mae ci ‘da ni fan hyn hefyd, mae gen fy mhartner ei char hi, so ‘di e ddim mor hawdd a neidio ar awyren ac anghofio popeth. Ti’n gorfod meddwl am be ti’n mynd i wneud, sut ti’n mynd i wneud e, beth sydd gorau i fi, hi a’r teulu.
“Ond fi’n awyddus i gyrraedd gartre a gobeithio byddai nôl yn cyfrannu i dîm rygbi rhywle yn y dyfodol.”