Cyhoeddi enw gyrrwr bws a fu farw mewn gwrthdrawiad ar y M53
Mae enw gyrrwr bws a fu farw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yng Nglannau Mersi fore Gwener wedi ei gyhoeddi gan yr heddlu.
Bu farw Stephen Shrimpton wedi i'r bws ysgol droi drosodd yn dilyn y gwrthdrawiad yng Nghilgwri.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo.
Dywedodd ei chwaer yng nghyfraith: "Mae wedi gadael fy chwaer sydd bellach yn wraig weddw yn ei thridegau cynnar, ac yn anffodus yn fam sengl i ddau blentyn ifanc sydd ond yn wyth a phedair oed, sy'n mynd i dyfu i fyny heb eu tad annwyl.”
Bu farw merch 15 oed, Jessica Baker, hefyd ar ôl y ddamwain ar yr M53 i gyfeiriad y gogledd, ger cyffordd pump yn Hooton, Sir Gaer, tua 8am ddydd Gwener.
Cyhoeddodd teulu Jessica lun ohoni nos Wener trwy Heddlu Glannau Mersi wrth iddyn nhw ofyn am breifatrwydd.
Dywedodd y llu mewn datganiad: “Yn drist iawn bu farw Jessica Baker o ganlyniad i’r gwrthdrawiad ar ffordd ogleddol yr M53 yn gynharach heddiw.
“Mae teulu Jessica wedi gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu ar hyn o bryd a bydd unrhyw ddiweddariadau ganddyn nhw’n cael eu cyhoeddi trwy swyddfa newyddion Heddlu Glannau Mersi fel y bo’n briodol.”
Roedd cyfanswm o 58 o bobl ar y bws pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd pedwar o blant eu cludo i'r ysbyty gan gynnwys bachgen 14 oed y dywedir bod ei anafiadau'n newid ei fywyd.
Cafodd eraill eu trin mewn canolfan hyfforddi brys, gyda 13 yn cael eu trin am fân anafiadau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Roedd y bws ar y ffordd i ysgol ramadeg i ferched yn West Kirby ac ysgol ramadeg i fechgyn yn Calday Grange, hefyd yn West Kirby yng Nglannau Mersi.
Llun: PA / Heddlu Glannau Mersi