Pedwar lleoliad yng Nghymru i dderbyn arian Cronfa Codi'r Gwastad
Mae pedwar lleoliad yng Nghymru wedi cael eu dewis gan Lywodraeth y DU i dderbyn rhan o'r Gronfa Codi'r Gwastad.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak y bydd 55 o drefi yn y DU yn derbyn £20m yr un o gronfeydd gwaddol dros gyfnod 10 mlynedd i fuddsoddi i "flaenoriaethau pobl leol."
Dywedodd y Llywodraeth y bydd y rhain yn cynnwys adfywio strydoedd mawr, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella trafnidiaeth a thyfu'r economi leol.
Mae tair tref yng Nghymru ynghyd â Wrecsam, a gafodd statws dinas yn ddiweddar, wedi’u henwi gan Brif Weinidog y DU fel rhan o fuddsoddiad lefelu gwerth £1.1 biliwn.
Bydd Merthyr Tudful, Cwmbrân, Wrecsam a’r Barri yn derbyn £20 miliwn yr un gan Lywodraeth y DU fel rhan o'r cynllun.
Bydd yr arian yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i’r awdurdod lleol perthnasol.
'Pobl leol wrth wraidd penderfyniadau'
O dan y dull newydd, dywedodd Llywodraeth y DU y bydd pobl leol yn cael eu rhoi wrth y llyw, ac yn cael yr offer i newid dyfodol hirdymor eu tref.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rishi Sunak: “Trefi yw’r lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei alw’n gartref a lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn mynd i weithio. Ond mae gwleidyddion bob amser wedi cymryd trefi yn ganiataol ac wedi canolbwyntio ar ddinasoedd.
“Y canlyniad yw bod y strydoedd mawr yn hanner wag, canolfannau siopa yn dadfeilio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n tanseilio ffyniant llawer o drefi – a heb ddull newydd, bydd y problemau hyn ond yn gwaethygu.
“Mae hynny'n newid heddiw. Mae ein Cynllun Hirdymor ar gyfer trefi yn rhoi cyllid yn nwylo’r bobl leol eu hunain i fuddsoddi yn unol â’u blaenoriaethau, dros y tymor hir. Dyna sut rydyn ni'n lefelu i fyny."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies ei fod yn falch bydd y cynllun yn cefnogi'r pedwar tref yng Nghymru.
“Mae Merthyr Tudful, Cwmbrân, Wrecsam a’r Barri i gyd yn lleoedd gwych a byddant yn elwa’n fawr o’r buddsoddiad sylweddol hwn yn eu dyfodol.
“Rydym yn falch o fod yn cefnogi pobl i gymryd rheolaeth o’u hardaloedd lleol. Mae lefelu i fyny yn ganolog i uchelgeisiau Llywodraeth y DU a bydd cymunedau ledled Cymru yn cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd nesaf gyda’r buddsoddiad rydym yn ei wneud ynddynt.”