Dyn yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth y rapiwr Tupac Shakur
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth y rapiwr Tupac Shakur.
Cafodd y rapiwr byd-enwog ei saethu'n farw ar ôl i ergydion gael eu tanio o gar oedd yn gyrru heibio iddo yn 1996.
Cafodd Duane “Keffe D” Davis ei arestio fore dydd Gwener yn ôl asiantaeth newyddion AP, ar un cyhuddiad o lofruddiaeth ag arf marwol.
Dywedodd yr heddlu ei fod wedi cynllunio saethu'r rapiwr ar ôl i’w nai fod yn rhan o frwydr gyda Shakur mewn casino.
Cafodd Davis ei arestio ger ei gartref yn Las Vegas yn gynnar ddydd Gwener, a bydd yn ymddangos yn y llys o fewn dyddiau.
Roedd Tupac Shakur yn 25 oed pan fu farw ym mis Medi 1996. Cafodd ei saethu bedair gwaith tra'n aros yn ei gar wrth oleuadau traffig. Bu farw wythnos yn ddiweddarach.
Yn ystod ei yrfa fe werthodd 75 miliwn o recordiau yn fyd-eang, gan ddod i enwogrwydd am ei ganeuon oedd yn cynnwys California Love ac All Eyez On Me.
Mae ei farwolaeth wedi bod yn destun sawl rhaglen ddogfen dros y blynyddoedd.