Dartiau: Jonny Clayton yn trafod 'y gystadleuaeth olaf i fy nhad 'ngweld i'n chwarae'
Mae Jonny Clayton wedi siarad am y cyfnod anodd wrth iddo barhau i chwarae dartiau ar y llwyfan mawr ddyddiau cyn marwolaeth ei dad.
Ym mis Gorffennaf cafodd cystadleuaeth dartiau'r World Matchplay ei chynnal, un o gystadlaethau mwyaf adnabyddus y gamp.
Roedd Jonny Clayton yn un o ddau Gymro i chwarae yn y gystadleuaeth honno, ond nid oedd wedi bwriadu cymryd rhan gan fod ei dad yn mynd trwy gyfnod o salwch.
"Roedd e'n amser caled," meddai Clayton.
"Roeddwn i'n mynd i dynnu allan o'r gystadleuaeth, ond roedd fy nhad yn mynnu fy mod i'n chwarae ynddi, felly beth wyt ti'n gwneud?"
Er nad oedd Clayton yn bwriadu chwarae yn y gystadleuaeth, fe wnaeth e gyrraedd y rownd derfynol wedi iddo guro Gabriel Clemens, Dimitri Van den Bergh, Ryan Searle a Luke Humphries ar ei ffordd yno.
Mewn cyfweliadau ar Sky Sports ar ôl y gemau hynny, roedd Clayton yn dweud "dwi dal mewn dad" ar ddiwedd bron pob un ohonynt.
Yn anffodus i Clayton, fe gollodd yn erbyn Nathan Aspinall yn y rownd derfynol yn y Winter Gardens yn Blackpool, ond roedd Clayton yn falch iawn bod ei dad yn gallu ei weld yn chwarae mor dda.
"Nid oeddwn i'n gallu perfformio yn y rownd derfynol, ond roeddwn i wedi gwneud rhywbeth dros fy nhad yn ei ddyddiau olaf, ac mae hynny'n golygu gymaint i fi.
"Roeddwn i wedi parhau i fynd a diolch byth fy mod i wedi, achos honna oedd y gystadleuaeth olaf wnaeth fy nhad fy ngweld i'n chwarae a dwi mor falch fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol."