Newyddion S4C

Dynwared ar-lein: 'Dwi'n poeni am fy niogelwch'

Dynwared ar-lein: 'Dwi'n poeni am fy niogelwch'

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn rhannu lluniau a manylion personol ar-lein. Ond ydych chi erioed wedi ystyried y gallai’r wybodaeth honno gael ei defnyddio gan sgamwyr? Ac y gallai fod yn eich rhoi chi mewn perygl?

Dyna’n union ddigwyddodd i’r newyddiadurwr llawrydd, Cerith Mathias. Dyma ei phrofiad hi:

"Dwi’n hen gyfarwydd ag adrodd straeon pobl eraill; ar deledu neu mewn print. Ond, ar ôl darganfod bod fy lluniau a gwybodaeth bersonol amdanaf i wedi’u defnyddio i greu proffil ffug ar wefannau dêtio, dwi wedi penderfynu rhoi fy hun yng nghalon y stori, yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fo’r byd ar-lein yn gallu effeithio ar eich byd go iawn.

"Ry’n ni’n clywed yn aml am sgamiau rhamant ac am ddioddefwyr ‘catfish’. Ond, do’n i erioed wedi ystyried sut mae’r proffiliau ffug yma’n cael eu creu, a hunaniaeth pwy sydd tu ôl i’r cyfrifon.

"Yn anffodus, erbyn hyn, dwi wedi gorfod dysgu am y byd tywyll hwn ar ôl derbyn ebost rhyfedd ddeufis yn ôl. Ynddo, roedd neges gan ddyn dieithr oedd yn credu ei fod wedi bod yn siarad â mi ar wefan ddêtio, ac eisiau gwybod pam fy mod i wedi stopio’r cyfathrebu.

"Dyma sut y des i i wybod fod yna broffil ffug ohonof yn bodoli ar-lein. Proffil oedd yn defnyddio fy enw, fy lluniau, fy nheitl swydd a’m lleoliad, hyd yn oed.

"Fel rhywun sydd erioed wedi creu cyfrif ar wefan ddêtio, ro’n i mewn sioc ac mewn penbleth llwyr. Fe wnes i ei ateb yn gwadu’r holl beth, a cheisio profi nad fi oedd y person oedd wedi bod mewn perthynas agos ag e. Roedd e’n gyndyn ac yn gwrthod fy nghredu i ddechrau, gan fod y wybodaeth i gyd yn ymddangos yn hollol gywir.

"Dyna pryd y gwnes i sylwi pa mor hawdd yw hi i greu jig-so o rywun ar-lein a dwyn eu hunaniaeth. Wrth chwilio am fy enw ar y we, fe wnes i sylwi mor hawdd yw creu darlun realistig o fywyd bob dydd rhywun; enw, lleoliad, gwaith, diddordebau. Er bod fy nghyfrifon i gyd yn breifat, mae’n amhosib cadw rheolaeth o’r lluniau dwi wedi cael fy nhagio ynddyn nhw neu’r hen luniau ro’n i wedi hen anghofio amdanyn nhw.

Image
Ar-lein

"Oedd, roedd yr ebost cychwynnol hwnnw wedi fy nychryn. Ond, wrth i’r dyn fygwth troi lan yn fy ngweithle er mwyn profi ein bod ni’n adnabod ein gilydd, ro’n i’n gwybod y gallai’r dryswch ar-lein yma bellach fy rhoi mewn perygl yn y byd go iawn. Fe wnes i gysylltu â’r heddlu."

'Dwi wirioneddol yn poeni am fy niogelwch'

"Fe wnaeth yr heddlu gysylltu â’r dyn yn yr ebyst a dweud wrtho i roi’r gorau i’r negeseuon bygythiol, ond doedd dim ffordd i ddelio gyda’r proffil ffug ei hun. Heblaw fy mod i’n gallu profi pwy oedd tu ôl i’r cyfrif a’u bod wedi dwyn fy hunaniaeth er mwyn sgamio neu dwyllo rhywun, doedd dim byd anghyfreithlon wedi cymryd lle.

"Roedd yn rhaid imi geisio mynd i wraidd y broblem fy hun, a chysylltu â’r wefan ddêtio. Gan nad o’n i’n aelod fy hun, roedd rhaid anfon sawl ebost ac aros dyddiau, oedd yn teimlo fel oes, am unrhyw fath o ateb. Yn y diwedd, cefais wybod ei bod wedi tynnu’r proffil lawr. Fe wnes i ofyn am gadarnhad o hyn, ond oherwydd rhesymau GDPR, doedd dim modd rhannu’r wybodaeth honno â mi. Fe fyddai’n gallu rhannu’r wybodaeth gyda’r heddlu, ond gan nad oedd unrhyw beth anghyfreithlon wedi digwydd, doedd dim mwy y gallwn wneud.

"Dwi felly yn y niwl o ran gwybod os yw’r proffil hwnnw yn dal i fodoli, ond yn waeth na hynny, faint yn fwy o broffiliau tebyg sy’n bodoli? Faint o bobl sy’n credu eu bod wedi siarad gyda mi? Beth sydd wedi cael ei ddweud yn fy enw i, ac i ba bwrpas? Efallai fyddaf ond yn gwybod pan fydd rhywbeth difrifol yn digwydd, boed hynny ar-lein neu’n y byd go iawn. Yn broffesiynol, mae’n faen tramgwydd, ond ar lefel bersonol, dwi wirioneddol yn poeni am fy niogelwch."

'Cyfrifoldeb arnaf i'

"Ers hynny, dwi wedi derbyn nifer o negeseuon eraill ar gyfryngau cymdeithasol gan ddynion sy’n honni eu bod wedi siarad â mi. Mae’n amlwg bod fy hunaniaeth wedi’i dwyn a sawl cyfrif yn fy nynwared ar-lein. Mae’r cyfrifoldeb arnaf i i daclo’r broblem a phrofi nad fi sy’n aelod o’r gwefannau hyn, ond mae’n broblem sy’n teimlo fel mynydd i unigolyn fel fi. 

"Ers siarad â rhaglen Y Byd ar Bedwar, dwi wedi dysgu nad yw fy mhrofiad i’n un unigryw. Yn ôl y grŵp Report Harmful Content, dynwared ar-lein a chreu cyfrifon yn defnyddio hunaniaeth rhywun arall yw’r drydedd gwyn fwyaf cyffredin iddyn nhw. Gyda thechnoleg yn datblygu ar raddfa frawychus, mae’n ofid y bydd y broblem yn gwaethygu, a chyfrifon ffug yn mynd yn fwyfwy soffistigedig a chyfrwys.

"I’r rheiny ohonom ni sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae gweld neges yn dweud bod rhywun wedi’u hacio yn weddol gyffredin, a hawdd yw credu nad oedd dim byd rhy ddifrifol am y peth. Ond, fel dwi wedi dod i ddeall dros yr wythnosau diwethaf, mae cael eich hunaniaeth wedi’i dwyn yn gallu cael goblygiadau go iawn, yn gallu ysgwyd eich hyder a’ch diogelwch o ddydd i ddydd. Efallai ddylem ni gyd fod yn fwy gofalus gyda’r manylion amdanom ry’n ni’n fodlon eu rhannu i’r byd cyfan eu dwyn."

Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar ar ddynwared ar-lein ar S4C nos Lun am 20.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.