
Miloedd o bobl yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd at achosion da
Miloedd o bobl yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd at achosion da
Mae miloedd o bobl wedi teithio i Gaerdydd ddydd Sul a rhedeg hanner marathon y brifddinas.
Fe wnaeth pobl ar draws Cymru a thu hwnt yn rhedeg y ras 13.1 milltir drwy ganol y ddinas.
Dechreuodd y ras am 10:00, gyda'r rhedwyr yn dechrau eu taith o flaen Castell Caerdydd cyn rhedeg heibio Stadiwm Dinas Caerdydd, i Farina Penarth ac yna heibio Canolfan y Mileniwm i lyn Parc y Rhath a gorffen yng nghanol y brifddinas.
Yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C roedd arweinydd y rhaglen FFIT Cymru, Kelly O’Donnell, yn cymryd rhan gydag aelodau eraill y gyfres eleni.
Wrth siarad â Newyddion S4C cyn y ras, dywedodd: “Os fysech chi ‘di gofyn y cwestiwn i fi, ‘Sut o’n i’n teimlo efo’r hanner marathon?’ tua thair wsnos yn ôl, 'swn i ‘di dweud dwi’n hollol, hollol barod am y sialens.
“Ond yn anffodus yn y tair wsnos diwetha’ mae’r mab ‘di cael Covid a dwi ‘di cael Covid felly dydw i ddim yn teimlo’r gorau fyswn i'n gallu ar y funud.
“Ond dwi mynd i gymryd bob cam fel mae’n dod a gweld sut eith hi,” meddai.

Fe wnaeth y ras werthu allan ym mis Mai, gyda 27,500 o redwyr yn hawlio eu lle.
Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Rydym yn falch iawn o ddod â Hanner Marathon Caerdydd, sydd wedi gwerthu pob tocyn, i brifddinas Cymru yr hydref hwn, yn ein pen-blwydd arbennig yn 20 oed.”
'Codi ymwybyddiaeth'
Un arall wnaeth gymryd rhan yn y ras yw Louise Lloyd, gyda’i phlant Rhys, 23 oed a Sophie 21 oed.
Bu farw gŵr Ms Lloyd a thad y plant, Greg Lloyd yn 51 oed, ym mis Awst 2022 ar ôl iddo ddioddef ataliad y galon yn ei gwsg a chafodd ei roi mewn coma meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Dywedodd Ms Lloyd: "Cafodd Greg ei anfon i'r ward gofal critigol yn yr ysbyty a'i roi mewn coma meddygol. Roedd wedi cael trawiad ar y galon ac yna ataliad y galon yn ei gwsg ac roedd wedi dioddef niwed i'r ymennydd oherwydd diffyg ocsigen.
“Fe wnaeth staff yr ysbyty eu gorau ond doedd dim byd y gallen nhw ei wneud."
Roedd Greg yn ddyn bywiog ac wedi byw bywyd iach. Yn rhedwr brwd, roedd wedi cwblhau Hanner Marathon Caerdydd dair gwaith yn flaenorol.
Bydd teulu Greg yn casglu arian tuag at Ysbyty Athrofaol Cymru gyda’r nod o gynnal prosiect ymchwil newydd i driniaethau ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.
Y gobaith yw y bydd yr astudiaethau hyn yn rhoi mwy o atebion o ran y ffordd orau o drin cleifion sydd wedi cael ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty i wella eu cyfle o oroesi.
Ychwanegodd Ms Lloyd: "Dyma un o'r pethau y gallwn ni fel teulu a ffrindiau Greg ei wneud i'w anrhydeddu. Roedd yn berson anhunanol a byddai bob amser yn barod i helpu eraill. Os bydd yr ymchwil yn helpu un teulu yn y dyfodol, bydd yn werth ei wneud."
Yn ôl y British Heart Foundation, mae llai nag un o bob deg o bobl yn y DU sy'n dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn goroesi.