Dadorchuddio cerflun o’r diddanwr Max Boyce yng Nglyn-nedd

30/09/2023

Dadorchuddio cerflun o’r diddanwr Max Boyce yng Nglyn-nedd

Mae cerflun o'r diddanwr Max Boyce wedi cael ei ddadorchuddio yng Nglyn-nedd.

Ymhlith yr ymwelwyr i'r dadorchuddiad ddydd Sadwrn roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford, Syr Gareth Edwards ac Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Louise Fleet.

Cafodd Max Boyce ei ben-blwydd yn 80 oed ddydd Mercher.

Yn rhan o’r dathliadau ac i nodi 50 mlynedd ers dechrau ei yrfa, cafodd y cerflun ei ddadorchuddio yn ei bentref genedigol i nodi ei gyfraniad cenedlaethol.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Max Boyce bod hwn yn deimlad “hollol swreal”.

“Mae’n hollol swreal, dylwn i ddweud. O’n i byth yn meddwl byse cerflun fel na yn Glyn-nedd.

“Rwy’n teimlo’n hollol darostyngedig. Dwi ddim yn haeddu siwd beth. Dwi’n nerfus, tyme bach yn drist yn hapus wrth feddwl am y bobl sydd ddim na.

“Dwi’n meddwl am y pobl licsen i fod ‘na efo fi sydd ddim gallu. Byse Mam yn teimlo balchder mawr ond ma hwnna ddim i fod.

“Ond fel na mae.”

Gyrfa hir

Ymysg ei hoff atgofion o'i yrfa hir fel perfformiwr poblogaidd ar draws y byd mae un perfformiad o'i gân ‘Hymns and Arias’ sydd yn aml yn cael ei chanu cyn ac yn ystod gemau rygbi rhyngwladol.

Cafodd Max y cyfle i befformio’r gân gyda Syr Tom Jones ym 1999, cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Wembley yn Llundain.

Uchafbwynt arall iddo oedd cael perfformio yn Nhŷ Opera Sydney yn Awstralia:

 “Ma Sydney yn dal falle 4,500 o bobl. Odd en dipyn, dipyn o beth.

“O ran canu mewn cyngherddau dyna’r un fwyaf fi'n credu achos odd e yn Awstralia o’n i ddim yn gwybod siwd fath o ymateb bydde fi’n cael ond odd y crowd yn gret."

Ond fe fydd cael cerflun ohono'i hun yn ei dref enedigol yw uchafbwynt i'w yrfa, meddai Max.  

“Ma siwd gymaint o [atgofion] ond fydd hwn fi’n credu y peth mwyaf nawr achos mae’n hollol, hollol swreal.”

Gwreiddiau dwfn

Mae tref Glyn-nedd a’i wreiddiau dwfn wedi bod yn rhan annatod o yrfa Max.

“Ma Glyn-nedd wedi bod, timod ma fe’n lle, ma’r teulu i gyd wedi cael eu magu ma, ma ffrindiau fi gyd ma felly ma fe’n hollbwysig.

“Ma’r dref ei hunain wedi bod yn dda i fi yn bersonol. Ma’n lle hyfryd i fyw - dim ond hanner awr o Abertawe, dim ond hanner awr o Bannau Brycheiniog.

“Mae’n lle canolog iawn. Mae’n bert. Ma pawb yn nabod fi a fi’n nabod pawb felly na sai’n symud nawr. Fi’n dwlu bod ma."

Personol

Mae bro ei febyd wedi ysbrydoli Max Boyce dros y degawdau - ac mae hyn yn amlwg yn ei ganeuon. Mae ei gefndir glofaol hefyd wedi bod yn ddylanwad pwysig ar ei fywyd a'i grefft:

“Y cymoedd sy wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi fwya. Roedd canu’r caneuon gwerin ma lle oedd symudiad mawr yn y byd gwerin.

“Odd bythdi saith gwaith glo yn Glyn-nedd gyda miloedd o bobl yn gweithio yna.  Bron bod pawb o’r Cwm ‘ma yn gweithio dan ddaear a odd cysylltiad mawr wedyn.

“Nath e rhoi’r cyfle i mi wedyn i sgrifennu a canu caneuon odd ddim ail-law fel petai.

“Odd rhywbeth personol iawn ac er o’n i ddim moyn gweithio dan ddaear - edrych yn ôl nawr - ges i’r cyfle i sgrifennu’r caneuon ma achos ges i’r profiad.”

Mae’r cerflun wedi’i greu gan yr artist lleol Rubin Eynon, a bydd yn wynebu Parc Abernant, sy’n gartref i Glwb Rygbi Glyn-nedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.