Dros 80% o fyfyrwyr newydd yn pryderu am effaith costau byw ar fynd i'r brifysgol
Mae canlyniadau arolwg newydd yn awgrymu bod bron i naw o bob 10 (86%) o fyfyrwyr sy’n dechrau ar eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn credu bod yr argyfwng costau byw wedi eu gwneud yn fwy pryderus am fynd i’r brifysgol.
Mewn arolwg i gymdeithas adeiladu Nationwide, dywedodd 76% o fyfyrwyr newydd mewn prifysgolion fod costau byw yn ystyriaeth allweddol wrth ddewis lleoliad i astudio.
Roedd ychydig dros 72% yn ystyried byw gartref yn ystod y flwyddyn gyntaf oherwydd pryderon ariannol.
Dywedodd dros hanner (56%) y myfyrwyr newydd y bydd eu rhieni neu warcheidwaid yn gallu eu cefnogi’n ariannol yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.
Ond mae’r argyfwng costau byw hefyd yn ffactor i rieni, gyda 69% o fyfyrwyr yn dweud ei fod wedi effeithio ar lefel y cymorth ariannol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei ddarparu eleni.
Fe wnaeth Censuswide arolygu fwy na 1,000 o fyfyrwyr ledled y DU sy'n dechrau eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol ar gyfer yr ymchwil.
Dywedodd Tom Riley, cyfarwyddwr nwyddau manwerthu Nationwide: “Dylai mynd i’r brifysgol fod yn amser hapus i fyfyrwyr, ond mae ein hymchwil yn dangos eu bod yn gwneud y daith honno gyda chryn dipyn o anesmwythder ariannol.
“Mae hyn yn arbennig o gyffredin ar hyn o bryd gyda’r argyfwng costau byw yn effeithio ar faint o gymorth y gall rhieni a gwarcheidwaid ei ddarparu.
“Gall fod yn anodd i fyfyrwyr yn ariannol gan mai dyma’r tro cyntaf yn aml iddynt reoli cyllideb eu cartref eu hunain. Weithiau gall gwariant fod yn fwy nag incwm, a dyna fel arfer pam mae llawer o fyfyrwyr yn debygol o droi at waith rhan-amser i ychwanegu at eu hincwm.”