Arestio dyn wedi i dri gael eu saethu'n farw yn Rotterdam
Arestio dyn wedi i dri gael eu saethu'n farw yn Rotterdam
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 32 oed wedi i o leiaf dri o bobl gael eu lladd mewn dau achos o saethu yn Rotterdam yn yr Iseldiroedd ddydd Iau.
Cafodd dynes 39 oed a'i merch 14 oed eu lladd yn yr ymosodiad cyntaf, a chafodd darlithydd 46 oed ei ladd mewn ail ymosodiad mewn ysbyty.
Mae'r dyn 32 oed sydd wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r saethu yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Erasmus sy'n gysylltiedig â'r ysbyty.
Cafodd staff eu gweld yn ffoi o'r ganolfan feddygol wrth i'r heddlu gyrraedd yr adeilad.
Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd Prif Weinidog yr Iseldiroedd, Mark Rutte: “Mae fy meddyliau i gyda dioddefwyr y trais, eu hanwyliaid ac yr holl bobl sydd wedi cael ofn.”
Llun: Wochit