Newyddion S4C

Rishi Sunak yn awgrymu y gallai Wylfa fod yn gartref i orsaf niwclear newydd

28/09/2023

Rishi Sunak yn awgrymu y gallai Wylfa fod yn gartref i orsaf niwclear newydd

Mae Prif Weinidog y DU Rishi Sunak wedi awgrymu y gallai'r Wylfa ar Ynys Môn fod yn gartref i adweithydd niwclear newydd yn y dyfodol.

Dair blynedd yn ôl, rhoddodd cwmni Hitachi'r gorau i gynllun gwerth dros £15 biliwn i godi gorsaf niwclear newydd enfawr yno oherwydd pryderon am gostau cynyddol.

Ond wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, awgrymodd Mr Sunak y gallai'r Wylfa fod yn gartref i fath newydd o adweithydd niwclear bychan SMR ('Small Modular Reactor').

Mae hen safle gorsaf niwclear Trawsfynydd hefyd wedi ei awgrymu yn y gorffennol fel cartref posib i'r math yma o adweithydd, fyddai'n cael ei adeiladu mewn ffatri a'i symud i'r safle.

Dywedodd Mr Sunak fod ei lywodraeth wedi ymrwymo i ddatblygu ynni niwclear.

 "Mae Wylfa'n safle ffantastig.oherwydd mae ganddo'r potensial i  wneud pwer gigawatt, a hefyd gallai wneud adweithyddion bychain modiwlar," meddai.

"Yn ddiweddarach yn yr hydref, mi fyddwn ni'n cyhoeddi'r safleoedd ar gyfer y rhan nesaf o'r broses SMR. Alla i ddim dweud llawer cyn hynny, ond yn amlwg mae Wylfa'n rhywle allai wneud y ddau beth."

Mae safle hen orsaf niwclear Wylfa wrthi'n cael ei ddadgomisynu, wedi i gynhyrchu ddod i ben yno yn 2015.

Mae nifer o wledydd wrthi'n ystyried codi adweithyddion bychain, ond hyd yma does 'na'r un wedi ei adeiladu yn y Deyrnas Unedig, nac ychwaith wedi cael caniatâd cynllunio.

Mae'r llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau â nifer o gwmniau gwahanol ynglyn â'r dyluniad gorau ar gyfer datblygiad o'r fath.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.