Apiau canlyn i annog pobl i gymryd brechlyn Covid-19

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd yn cydweithio ag apiau canlyn er mwyn ceisio annog mwy o bobl i gymryd brechlyn Covid-19.
Fe fydd pobl dan 30 oed yn Lloegr yn dechrau derbyn gwahoddiad i gael eu brechu'r wythnos hon.
Yng Nghymru, mae 60.2% o bobl rhwng 18 a 29 oed eisoes wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn.
Fel rhan o ymgyrch yr apiau canlyn, fe fydd modd i ddefnyddwyr ddangos ar eu proffil eu bod wedi eu brechu a derbyn buddion ychwanegol am ddim.
Bydd yr apiau, sy'n cynnwys Tinder, Hinge, Bumble, Badoo, Match, Plenty of Fish, Our Time, Muzmatch, hefyd yn cynnwys hysbysebion a baneri i gefnogi ymgyrch y llywodraeth.
The Independent sydd â'r manylion yn llawn yma.