'Mi fydd hi efo ni'r holl ffordd': Cyflawni Her y Tri Chopa er cof am Betsan Morris
'Mi fydd hi efo ni'r holl ffordd': Cyflawni Her y Tri Chopa er cof am Betsan Morris
Nos Wener fe fydd tua 20 o deulu a ffrindiau agos Betsan Wyn Morris yn gwneud Her y Tri Chopa, sef dringo mynyddoedd Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan, mewn 24 awr er cof amdani.
Bu farw Betsan yn 43 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch ym mis Tachwedd y llynedd, gan adael ei phartner Dewi, a'u plant Idris, 10, a Casi, wyth, yn ogystal â nifer fawr o deulu a ffrindiau.
"O’dd Betsan bob amser isio neud Her y Tri Chopa mewn 24 awr, ag oedd hi wedi bod i fyny’r Wyddfa, a neud Pen y Fan, a heb neud Cader Idris," meddai ei chwaer, Catrin Davis, wrth Newyddion S4C.
"O’dd hi bob amser yn deud ‘sa hi’n licio neud Cader Idris a natho ni ddim dod rownd i drefnu’r peth, byth yn meddwl ‘sen ni methu neud felly dyna pam ‘dan ni am gyflawni’r her a neud o er cof am Betsan."
Redd Betsan yn gymeriad "hwyliog a llawn personoliaeth" yn ôl Catrin.
"O’dd gen hi gymaint o ffrindia a phobl wrth eu bodd yn bod yn ei chwmni hi, oedd hi’n berson hwyliog, hi oedd yn entertainio, gymaint o synnwyr digrifwch, o’dd hi’n hogan funny," meddai.
"O’dd hi’n meddwl y byd o’i theulu, oedd hi’n falch iawn o’r hogie, hi oedd yr anti cŵl, a hefyd yn bwysig, oedd hi’n fam arbennig i Idris a Casi, o’dd hi’n fam brysur iawn ag yn llenwi eu diwrnodia nhw efo profiade a ma’ hynne yn golled ofnadwy iddyn nhw."
Mae teulu a ffrindiau Betsan yn codi arian at elusen sydd yn agos iawn at eu calonnau, sef elusen Bowel Cancer UK.
"Dyna lle gychwynnodd y canser efo Betsan a hefyd mi gollon ni Dad i Ganser y Coluddyn bedwar mis ynghynt wedyn ma’ ‘na gymaint o ymwybyddiaeth yn dod o symptome yn fwy diweddar ond gafodd Betsan ddim symptome o gwbl nes oedd hi yn rhy sâl, ac yn rhy hwyr iddi gael unrhyw fath o driniaeth," meddai Catrin.
Canser y Coluddyn ydy'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, ac mae bron i 43,000 o bobl yn derbyn diagnosis bob blwyddyn.
Yn ôl elusen Bowel Cancer UK, mae mwy na 16,800 o bobl yn marw o'r afiechyd bob blwyddyn yn y DU, gan olygu mai dyma'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl.
Doedd gan Betsan ddim symptomau o gwbl. Derbyniodd ddiagnosis o'r canser ym mis Hydref y llynedd a bu farw bum wythnos yn ddiweddarach.
Roedd y sioc o golli Betsan mor agos at eu tad yn brofiad erchyll yn ôl Catrin.
"Oeddan ni heb alaru a wedi dod dros Dad, a wedyn y trawma o Betsan yn sâl, oeddan ni byth yn meddwl ‘sa hyn yn digwydd mor sydyn, ma’ hi wedi bod yn anodd ond drwy gefnogaeth ein gilydd a chefnogaeth y teulu a ffrindia sydd wedi bod yn anoddach fyth mewn ffordd, ond ‘dan ni’n falch iawn bo genna ni’n gilydd," meddai.
Ychwanegodd Catrin bod Betsan yn berson ffit, ac yn gwneud amryw o chwaraeon gwahanol.
"Oedd hi’n berson ffit ag yn gryf ofnadwy, oedd hi newydd gychwyn chwarae pêl-droed, newydd hyfforddi i hyfforddi plant ag oedd o’n bwysig iawn iddi bod merched yn cael y cyfle achos doedd hi heb gael cyfle yn blentyn," meddai.
"Oedd hi’n rhedeg, mynd i’r gym ag yn codi pwysa, oedd hi’n mynd i’r môr ymhob tymor o’r flwyddyn ond dwi’n meddwl bod o’n bwysig ofnadwy mynd at y doctor, dim aros achos mae o jyst yn dangos pa mor sydyn ma petha yn gallu datblygu."
Er mor anodd fydd yr her, mae'r criw yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn sicrhau rhagor o ymchwil at ganser y coluddyn.
"'Den ni’n gobeithio bo' ni’n gallu gneud rwbath positif allan o sefyllfa mor mor drist a ma’n gyfle i ni ddod at ein gilydd fel teulu a ffrindie i rannu atgofion a hefyd efo’n gilydd, ‘dan ni’n gryfach a bod ni’n gallu codi pres a gobeithio bo’ hwn yn mynd i fod yn help i rywun sydd yn diodde o’r canser," meddai Catrin.
Dywedodd Catrin y byddai'r elfen feddyliol ac emosiynol yn heriol i'r criw wrth iddyn nhw gwblhau'r her.
"Dwi’n meddwl bod yr her feddyliol, emosiynol yn galetach, ma’i ‘di bod yn bythefnos anodd arna ni mewn ffordd, unwaith ath y dudalen Just Giving allan, paratoi honna, cael gymaint o negeseuon hyfryd yn sôn amdani a’r pres yn dod i fewn, mae o yn anodd ond yn braf clywed y negeseuon hefyd, jyst dod â fo yn ôl i gyd dydi," meddai Catrin.
Bydd y criw yn tynnu digon o luniau tra'n gwneud yr her, a hynny am reswm pwysig.
"Fyse hi’n falch iawn ond ma’ rhaid ni neud siwr bod 'na ddigon o lunie yn cael eu tynnu i roi ar Instagram achos dyna be oedd un o’i diddordebau hi, oedd genna hi ddawn arbennig yn tynnu llynie, o’dd gen hi steil.
"Diolch bod y llunie yna achos heina ‘dan ni’n trysori ond dwi’n siwr fysa hi yn gutted ofnadwy bod hi ddim yn gallu neud o efo ni ond wedyn fydd hi efo ni’r holl ffordd bydd, ma’ hynna yn cadw ni fynd."
