Rakie Ayola o Gaerdydd yn ennill gwobr Bafta

Mae'r actor Rakie Ayola o Gaerdydd wedi ennill gwobr Bafta mewn seremoni nos Sul.
Enillodd Ayola'r wobr am yr Actores Gefnogol Orau am ei rôl yn y ddrama BBC, Anthony.
Roedd y ddrama yn adrodd hanes y dyn ifanc Anthony Walker, a gafodd ei lofruddio yn 2005 yn dilyn ymosodiad hiliol.
Fe dalodd Ayola deyrnged emosiynol i Anthony Walker a'i fam Gee wedi iddi ennill gwobr am ei rhan yn y ddrama, yn ôl WalesOnline.
Roedd Rakie Ayola yn un o'r enwogion a ymddangosodd yn y gyfres ddiweddaraf o Iaith ar Daith ar S4C.
Derbyniodd cyd-gynhyrchiad S4C, Tŷ am Ddim, y wobr am y Rhaglen Ddydd Orau, wrth i Casualty, sydd wedi ei ffilmio yng Nghaerdydd, ennill y wobr am yr Opera Sebon a Drama Barhaus Orau.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.