Newyddion S4C

Taith gerdded dros reilffordd yn 'ddechrau'r ymgyrch yn unig'

27/09/2023

Taith gerdded dros reilffordd yn 'ddechrau'r ymgyrch yn unig'

Wrth i'w daith ar hyd Cymru ddod i ben ddydd Mercher, mae Elfed Wyn ap Elwyn yn pwysleisio mai dyma ddechrau ei ymgyrch yn unig dros reilffordd Traws Linc Cymru. 

Gan ddechrau ar 17 Medi, mae'r cynghorydd sy'n byw yn Nhrawsfynydd, Gwynedd wedi bod yn cerdded o Fangor i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Bydd yn cyrraedd y Senedd toc cyn 13:00 brynhawn Mercher, wedi iddo gerdded dros 200 milltir yn y 10 niwrnod diwethaf.

Bwriad y daith yw "codi ymwybyddiaeth o’r angen am well system drafnidiaeth gyhoeddus i uno Cymru ac yn ehangach."

Mae hyn yn cynnwys "rhwydwaith trenau trwy orllewin Cymru i gysylltu cymunedau y de a’r gogledd gyda’i gilydd ac arbed oriau o deithio i bobl sy’n gorfod mynd trwy Loegr ar hyn o bryd," meddai'r ymgyrchydd.

Dywedodd Elfed Wyn ap Elwyn, sydd yn Gynghorydd ar Gyngor Gwynedd dros Bowydd a Rhiw bod pobl yn cael eu gorfodi o'u cymunedau oherwydd diffyg rheilffyrdd.

"Dwi'n credu'n gry' iawn bod angen cyswllt pendant rhwng y gogledd a de Cymru," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae llawer iawn o bobol yn goro' gadael eu cymuneda' nhw, yn enwedig yn y canolbarth a'r gogledd hefyd lawr am Gaerdydd, oherwydd bod nhw'n chwilio am waith.

"Ond dwi'n gweld rheilffordd yn ffordd ma' rhywun yn gallu aros yn y gymuned, a hefyd teithio nôl a 'mlaen yn rhwyddach.

"Dwi'n meddwl am cymuneda' fel Tregaron a Llanbedr Pont Steffan. Ma' nhw'n teimlo mor bell rŵan, ond pan o'dd rheilffordd yn mynd drwy'r cymuneda' ma' o'dd o fath â gwythïen oedd yn cysylltu y bobol a hefyd y masnach yn y trefi a'r ardaloedd yma 'lly.

"Dwi'n meddwl bod o'n allweddol i ni blethu'r cymuneda' Cymreig 'ma at ei gilydd er mwyn rhoi dyfodol pendant a sicr iddyn nhw.

Cefnogaeth tra'n cerdded

Wrth i Elfed Wyn ap Elwyn deithio o'r gogledd i'r de dros y dyddiau diwethaf mae e wedi cael cefnogaeth mewn amrywiol ffyrdd.

Pe bai hynny drwy bobl yn ymuno gydag e ar y daith, cynnig bwyd a diod neu hyd yn oed gynnig llety, mae'r gefnogaeth wedi ei gynnal ar hyd y daith, meddai.

Image
Elfed Wyn ap Elwyn
Elfed Wyn ap Elwyn yn derbyn cefnogaeth ar y daith gerdded. Llun: Elfed Wyn ap Elwyn.

"Ma' 'na bobl wedi bod yn neidio ymlaen yn y daith, yn cyd-gerdded efo fi oherwydd bod nhw'n credu'n gry' yn be dwi'n neud.

"Ma' 'na bobl 'di bod yn rhoi bwyd, bisgedi, llety, diodydd, a jyst pobl yn canu corn. Yr eiliad ma' rhywun yn deutha fi 'o diolch yn fowr ti'n neud gwaith da' fedrai gerdded 20 milltir arall y diwrnod yna'n hawdd."

"Ond mae'r gefnogaeth ar y we hefyd 'di bod yn ffantastig, a dwi'n edrych bach yn ecsentrig yn cerddad lawr y ffordd, pobl yn gofyn 'Duw be ti'n neud? Pam ti'n cerddad mor bell?'

"A dwi'n egluro'r rhesyma' a ma' nhw yn syth ma' nhw'n cefnogi ac yn gweld bod o'n neud synnwyr iawn de?"

Mae e hefyd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaol gan aelodau o'i deulu.

"Mae y teulu i gyd wedi bod yn wych yn helpu fi, i gyrraedd y llefydd 'dw i angan dechra neu efo'r bwyd, neud yn siŵr bod fi'n iawn.

Dwi'n ga'l dau neu dri o alwadau ffôn oddi wrth bob un aelod o'r teulu bob dydd 'lly."

Dechrau'r drafodaeth

Ynghyd â'i daith gerdded, mae Elfed Wyn ap Elwyn wedi creu deiseb yn galw am greu rheilffordd Traws Linc Cymru.

Mae 12,500 o lofnodion bellach ar y ddeiseb, a honno yw'r dechrau yn unig i'r ymgyrch hon, meddai'r ymgyrchydd.

"Jyst cyflwyno'r ddeiseb ydw i. Felly cama' bach dwi'n ei gymryd 'lly efo'r ymgyrch 'ma.

"Dwi isho astudiaeth dichonoldeb ar y sgôp  i gael ei wneud o'r linell rhwng Afonwen a Bangor.

"Mae 'na un wedi cael ei wneud eisoes rhwng Aberystwyth a Caerfyrddin a dwi'n meddwl fod y darnau yn dechra' disgyn at ei gilydd 'wan, y darna' jig-sô.

"Mi fyddai gweld fod petha'n dod at ei gilydd yn neis iawn a dwi'n obeithiol iawn fydd 'na lwyddiant pendant efo hyn yn y pendraw."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.