Cwmni cartref gofal yn Y Felinheli wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Mae cwmni sy’n rhedeg cartref gofal yn Y Felinheli yng Ngwynedd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Roedd cartref gofal Cerrig yr Afon yn cael ei redeg gan Resicare Limited.
Dywedodd llefarydd ar ran y gweinyddwyr, cwmni Kroll, wrth Newyddion S4C eu bod yn chwilio am berchennog newydd i brynu'r busnes.
Mae gan y cartref le ar gyfer 57 o breswylwyr.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y gweinyddwyr: “Mae Benjamin Wiles a Philip Dakin o Kroll, wedi’u penodi’n weinyddwyr ar gyfer Resicare Limited.
"Mae staff wedi’u cadw a bwriad y Cyd-weinyddwyr yw parhau i fasnachu gyda’r bwriad o ddod o hyd i brynwr ar gyfer y cartref gofal.”
'Camdriniaeth ac esgeulustod'
Ym mis Gorffennaf eleni fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru gyhoeddi adroddiad beirniadol am y cartref nyrsio yn dilyn adolygiad.
Mae’r adroddiad yn nodi nad oedd pobl "bob amser yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod.”
Dywed yr adroddiad hefyd fod gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei storio'n wael.
“Gwelsom nifer o ffeiliau gofal a gwybodaeth sensitif arall a oedd wedi'u gadael yn y lolfa ac yn y coridorau.”
Ychwanegodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru: “Nid oes gan y bobl reolaeth dros eu bywydau o ddydd i ddydd bob amser.
“Nid oedd tystiolaeth i ddangos bod y bobl yn cael bath a chawod, a dywedodd un person y byddai wrth ei fodd yn cael bath ond nad oedd wedi cael un."
Dywedodd yr arolygwyr hefyd nad oedd "anghenion corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol y bobl yn cael eu diwallu bob amser".
"Nid yw anghenion gofal a chymorth y bobl yn gwbl hysbys cyn iddynt gael eu derbyn i'r gwasanaeth, ac nid yw'r cynlluniau personol yn ddigon manwl.”
Yn ystod yr arolygiad diwethaf i'r cartref fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru gyhoeddi chwe Hysbysiad Gweithredu â Blaenoriaeth, gan dynnu sylw at un maes i'w wella.
Mewn ymateb i'r newyddion am sefyllfa Resicare Limited, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Newyddion S4C:
“Rydym wedi ein hysbysu am amgylchiadau y cartref hwn. Rydym yn falch nad yw’r cartref yn mynd i gau ac mai bwriad y gweinyddwyr yw canfod perchnogion newydd. Ein blaenoriaeth ydi cefnogi a gwarchod iechyd a lles preswylwyr y cartref.”
Hysbysiad Gweithredu
Yn ystod yr archwiliad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru i Gerrig yr Afon ym mis Gorffennaf eleni, roedd un Hysbysiad Gweithredu â Blaenoriaeth wedi'i fodloni ac fe gyhoeddwyd dau Hysbysiad Gweithredu â Blaenoriaeth newydd gan AGC.
Dywedodd yr arolygwyr nad oedd yr unigolyn cyfrifol yn y cartref gofal wedi ymgysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru drwy gydol y broses arolygu.
Aeth yr adroddiad ymlaen i nodi “nad yw’r cartref yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda ac nad yw'n ddiogel.
“Caiff drysau cypyrddau glanhau ac ardaloedd storio clinigol eu gadael heb eu cloi.
"Mae cynhyrchion ymolchi yn dal i gael eu rhannu at ddefnydd pawb, ac mae'r coridorau'n anniben. Roedd cyflwr rhai o'r ystafelloedd a welsom yn wael, gyda staeniau ar y carpedi ac arogl amlwg."
Roedd problemau'n bodoli gyda faint o hylif oedd ar gael i breswylwyr ei yfed hefyd meddai'r arolygwyr:
“Nid yw'r bobl yn cael y gofal cywir, ar yr adeg gywir nac yn y ffordd y dymunant bob amser. Ni chaiff y cofnodion archwilio hylif eu cynnal yn effeithiol ac maent yn dangos nad oedd hanner y preswylwyr yn cael cymorth digonol gan y staff gyda'u cymeriant hylif ar sawl diwrnod.
"Nid oedd y nyrsys yn cymryd camau gweithredu digonol er mwyn sicrhau bod y bobl yn cael digon i yfed.”
Dywedodd llefarydd ar ran Arolygiaeth Gofal Cymru: “Mae AGC yn ymwybodol bod y gweinyddwr Kroll Advisory Ltd wedi’i benodi i reoli’r cwmni hwn. Mae pobl sy'n byw yn y cartref, teuluoedd a staff wedi cael gwybod am y newid. Mae’r gweinyddwr yn rhoi trefniadau ar waith i gynnal a gwella ansawdd gofal, hyfforddiant a rheolaeth ac mae AGC yn gweithio gyda’r Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd i gefnogi a goruchwylio’r newidiadau”.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Resicare Limited am ymateb i'r newyddion fod y cwmni bellach yn nwylo'r gweinyddwyr.
