Gwobr y Frenhines i gydnabod gwaith ymatebwyr cyntaf yng Ngwynedd

Gwobr y Frenhines i gydnabod gwaith ymatebwyr cyntaf yng Ngwynedd
Mae tîm o ymatebwyr cyntaf o Wynedd sydd wedi achub nifer o fywydau yn eu cymuned leol wedi ennill Gwobr y Frenhines am eu gwaith gwirfoddol yn ystod y pandemig.
Mae'r tîm, sy'n gwasanaethu ardal y Bermo, yn cael eu cydnabod am addasu gwaith a mynd a moddion i bobl hŷn a bregus yn lleol.
Mae derbyn y wobr yn "fraint", meddai'r ymatebwr cyntaf Damian Williams.
"Mae'n fraint iawn, ond de ni ddim yn neud o i gael y wobr a pethau fel 'na, mae o fwy i helpu y gymuned a'r bobl."
Mae'r cynghorwyr lleol yn ddiolchgar am waith y tîm.
Dywedodd Rob Williams o Gyngor Tref y Bermo: "De ni reit lwcus ohonyn nhw, fel de chi'n gwybod de ni hanner can milltir i ffwrdd o unrhyw ysbyty... de chi isho ambiwlans yma, de chi'n sôn am oriau weithiau. Dim bai yr ambiwlans ydio, jysd y ffaith lle de ni.
"Felly mae rhein yn bwysig i'r ardal. Ma' nhw yne a ma' nhw'n ateb. Voluntary ydyn nhw, ond chware teg, maen nhw'n gredyd i'r gymuned."