Newyddion S4C

Erlynwyr i ystyried achos llys arall yn erbyn Lucy Letby

25/09/2023
Lucy letby

Fe fydd erlynwyr yn penderfynu ddydd Llun os ydyn nhw am gynnal ail achos cyfreithiol yn erbyn y llofrudd plant Lucy Letby, ar nifer o honiadau sydd heb eu datrys.

Cafodd Letby, 33, ei dedfrydu i garchar am oes lawn ar ôl i reithgor ei chael yn euog o lofruddiaethau saith o fabanod ac o geisio llofruddio chwech arall yn uned newyddanedig Ysbyty Iarlles Caer yn 2015 a 2016.

Ond oedd y rheithgor yn ei hachos yn Llys y Goron Manceinion wedi gallu dod i benderfyniad fis diwethaf ar chwe chyhuddiad o geisio llofruddio mewn perthynas â phump o blant.

Mae disgwyl i wrandawiad gael ei gynnal yn yr un llys ddydd Llun pan fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn amlinellu bwriad yr erlynwyr.

Gwadodd Letby yr holl droseddau a chyflwynodd gais apêl yn erbyn ei heuogfarn yn y Llys Apêl yn gynharach y mis hwn.

Ni allai’r rheithgor o saith menyw a phedwar dyn yn ei hachos ddod i ddyfarniad ar honiadau bod Letby wedi ceisio llofruddio tair merch fach, sy’n cael eu hadnabod mewn dogfennau llys fel Plentyn H, Plentyn J a Phlentyn K.

Fe'i cafwyd yn ddieuog o ddau gyhuddiad arall o geisio llofruddio.

Penderfynodd y rheithgor hefyd na allai ddod i ddyfarniad dros ddau gyhuddiad o geisio llofruddio yn erbyn Plentyn N, sef bachgen bach, a honiad iddi geisio llofruddio baban arall, Plentyn Q.

Cafwyd Letby yn euog o un cyhuddiad o geisio llofruddio yn erbyn Plentyn N.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.