Newyddion S4C

Gosod côd QR ar garreg bedd Josh Roberts er mwyn 'cadw ei atgof yn fyw'

10/09/2024

Gosod côd QR ar garreg bedd Josh Roberts er mwyn 'cadw ei atgof yn fyw'

“Mae o jest yn cadw fo’n fyw. Mae o dal yma efo ni ond mewn ffurf ddigidol.”

Fe fydd modd i deulu a ffrindiau dyn ifanc o Gaernarfon a fu farw'r llynedd i gofio amdano drwy gymorth technoleg.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ar 2 Mehefin y llynedd.

Fe’i claddwyd ym mynwent Llanbeblig yng Nghaernarfon wedi i gannoedd o alarwyr ymgynnull yn y dref ar ddiwrnod ei angladd

Image
Josh Roberts
Josh Roberts

Dros flwyddyn yn ddiweddarach ac mae ei deulu wedi penderfynu gosod côd QR ar ei fedd. 

Wrth ei sganio ar ffôn symudol, mae modd i ddefnyddwyr gael mynediad i deyrngedau i Josh, ymaelodi â grŵp Facebook sy’n rhannu atgofion ohono, gwrando ar restr o’i hoff ganeuon a chwaraewyd yn ei angladd, neu weld lluniau a chlipiau fideo ohono. 

Daeth y syniad gan ei chwaer, Abigail Roberts, ac mae hi’n credu bod y defnydd o dechnoleg yn cynnig “cysur” i’r rhai sydd yn galaru amdano.

Dywedodd Abigail: “O'n i di meddwl bo fi isio lle uniongyrchol i roi gwybodaeth am Josh a pwy oedd o, ac o'n i methu cal pen fi rownd bo ganddo fo Facebook, Snapchat, Instagram.

Image
QR Josh
Y Côd QR ar garreg bedd Josh

So nesh i feddwl, nai roi QR code yna fel sa chdi’n ordro bwyd off menu; mae o i gyd yna, so dwi di just casglu bob dim off yr internet, social media, di gal pobol i roid petha nhw’u hunain i mewn hefyd, jest i bob dim gal bod yna am Josh a pwy oedd o rili.”

Dyfodol

Mae ei deulu yn credu bod y côd yn “ffordd fodern” o roi epitaff i Josh, ychwanega Abigail.

“Y ffor' oni’n sbïo arno fo oedd, ti’n gweld gymaint o gerrig a ti’n meddwl, ‘sgwn i be di stori’r person yna?’ A weithia ti byth yn mynd i wybod.

“Ond 'swn i’n licio ella pan genna fi blant yn y dyfodol, mynd ‘sbïa Yncl Josh, sbïa be odd Josh yn neud y diwrnod yma 10 mlynedd yn ôl’ neu ‘sbïa be nath o yn ei fywyd’.

“Ac mae o jest yn cadw fo’n fyw. Dio’m yn mynd i nunlla. Mae o dal yma efo ni ond mewn ffurf ddigidol.
 

Image
QR Josh R
Y ddewislen ar gael i ddefnyddwr ffôn sydd yn sganio'r Côd QR

“Mae’r ymateb di bod yn reit positif. Mae lot o bobol yn pryderu am sut dwi’n mynd i gael gafael ar bob un atgof ond gawn ni weld sud mae o’n mynd ag ella fydd o’n rwbath ma pobol eraill isho hefyd i gofio pobol maen nhw’n caru a pobol di nhw ddim isho anghofio chwaith.”

"Mae ei ysbryd yma hefyd"

Mae’r pymtheg mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i Abigail a’i theulu. Ddiwedd Awst, fe fyddai Josh wedi troi’n 21 mlwydd oed.

“I ddechrau, o'n i’n gweld o’n rili anodd dod yma i’r fynwent,” meddai. “Y lle dwytha o'n i isio dod i weld fy mrawd oedd mewn mynwent.

“Ond 'dwi’n dod yn reit amal rŵan. Ma’ nain yn byw rownd gornel, da ni’n byw lawr y lôn, ond 'dwi’n dod yma weithia ben fy hun a jest siarad efo fo.

"Ac mae’n gysur gallu sganio’r QR code a sbïo yn ôl ar atgofion a rhannu nhw efo fo dal i fod. Dwi’n dod yn reit amal rŵan gan bod hwn yn fama.

“Dwi’n teimlo fatha, mae atgof o yma, ond mae ei ysbryd o yma hefyd. Ond mae o dal yn anodd dod yma, regardless os mae 'na QR code yma neu beidio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.