Cannoedd yn angladd Josh Roberts yng Nghaernarfon
Cannoedd yn angladd Josh Roberts yng Nghaernarfon
Roedd rhai cannoedd wedi ymgynnull yng Nghaernarfon ddydd Gwener ar ddiwrnod angladd dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad.
Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19 oed, mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ar 2 Mehefin.
Fe wnaeth yr angladd ddechrau o’r Oval, cae pêl-droed Clwb Caernarfon gyda’r galarwyr yn gwisgo crysau pêl-droed.
Daeth cais gan y teulu cyn yr angladd i bobl wisgo crysau pêl-droed Cymru, Everton, Caernarfon, Bontnewydd a'r Gym-Gym.
Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Llanbeblig am 12.30.
Roedd Joshua Lloyd Roberts yn wreiddiol o Gaernarfon, ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Roedd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cymru, ac yn aelod ffyddlon o’r Wal Goch.
'Annwyl'
Yn dilyn ei farwolaeth fe wnaeth mam Josh, Melanie Tookey, ei ddisgrifio fel "person caredig a gofalgar.
"O'dd Josh yn un o’r pobl mwya' rhesymol fedrai ddweud mod i’n nabod," meddai.
"Bob tro'n edrych ar yr ochr iawn o petha. O'dd o ddim yn anghytuno efo pobl os o'dd o ddim yn licio nhw, os oeddon nhw'n gywir oedd o'n deud bod nhw'n gywir.
"Ag odd on jyst person ffyni, caring, focused, a positif. Byth yn rili sulkio na ddim byd felna, cario 'mlaen, cario 'mlaen, cario 'mlaen, roedd o jyst mor annwyl a caredig."
Ychwanegodd fod y gefnogaeth y mae hi a'i theulu wedi ei dderbyn wedi bod o gymorth mawr iddi.
Mae tudalen gasglu arian gafodd ei sefydlu gafodd ei sefydlu'n lleol eisoes wedi casglu dros £20,000 ar gyfer y teulu.