Image

Mae dyfais ffrwydrol wedi cael ei thanio o dan reolaeth ar draeth ar Ynys Môn.
Cafodd Gwylwyr y Glannau, yr heddlu a'r tîm gwaredu ffrwydron eu galw i ddelio gyda'r ddyfais, a gafodd ei ddarganfod ar draeth Llanddwyn ddydd Sadwrn.
Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhyddhau fideo o'r foment y digwyddodd y ffrwydriad.
Dywedodd Tîm Gwylwyr y Glannau Bangor: "Cafodd y ffrwydriad ei ddelio gydag o yn ddiogel.
"Os dewch chi o hyd i rywbeth amheus ar y traeth, gadewch lonydd iddo, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwylwyr y Glannau."
Fideo: Tîm Gwylwyr y Glannau Bangor
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.