20mya: Cannoedd yn protestio yng Nghaerdydd
20mya: Cannoedd yn protestio yng Nghaerdydd
Daeth cannoedd o bobl i brotestio ar hyd strydoedd Caerdydd ddydd sadwrn yn erbyn y newid mewn terfyn cyflymder i 20mya ar draws y wlad.
Daeth y newid mewn terfyn cyflymder ar nifer o’r ffyrdd yng Nghymru, o 30mya i 20mya, i rym fore Sul diwethaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai bwriad y gyfraith newydd oedd i arbed mwy o fywydau ar y ffyrdd ac i wneud cymunedau yn fwy diogel.
Ers hynny, mae nifer sy’n gwrthwynebu’r newid wedi wedi bod yn lleisio’u barn, gyda deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ddiddymu’r polisi yn casglu 400,000 o lofnodion erbyn hyn.
Mae deiseb o blaid y newid wedi casglu tua 500 o lofnodion hyd yma.
Ddydd Gwener, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw’n bwriadu gwneud cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd Lee Waters a wnaeth arwain ar gyflwyno’r gyfraith newydd.
Mae Mr Waters a’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi amddiffyn y polisi oedd yn ymrwymiad manifesto Llafur Cymru.