Newyddion S4C

Arestio dau ddyn yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Abertawe

23/09/2023
Heol Waun Wen a Heol Tegid

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" yn ardal Mayhill yn Abertawe prynhawn dydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu fod dwy ferch 11 oed wedi eu hanafu yn dilyn y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur a sgwter trydan pinc am 15:59 ar y gyffordd rhwng Heol Waun Wen a Heol Tegid.

Dywedodd yr heddlu fod y ddwy ferch yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty a’u bod wedi arestio dau ddyn, 18 a 24 oed, ar amheuaeth o achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad y beic, y credir ei fod yn Husqvarna, i gysylltu.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Jonathan Fairhurst: “Mae ein meddyliau gyda theulu'r ddwy ferch sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

“Rydym yn deall fod yna dipyn o bryder o fewn y gymuned ac mae ymholiadau trylwyr i geisio dod o hyd i amgylchiadau’r gwrthdrawiad.

"Rydym yn gofyn yn barchus i bobl beidio â dyfalu ar hyn o bryd."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.