
Cymru v Awstralia: Pryd mae'n dechrau, lle mae 'mlaen, a phwy yw’r ffefrynnau?
Cymru v Awstralia: Pryd mae'n dechrau, lle mae 'mlaen, a phwy yw’r ffefrynnau?
Bydd Cymru yn targedu eu trydedd fuddugoliaeth yng Nghwpan Rygbi’r Byd wrth iddyn nhw herio Awstralia ddydd Sul a sicrhau lle yn rownd y chwarteri.
Ble mae’r gêm yn cael ei chwarae?
Fydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm OL, yn ninas Lyon, yn ne ddwyrain Ffrainc.
Faint o'r gloch mae’r gic gyntaf?
Mae’r gic gyntaf am 20:00.
Pwy sydd yn nhîm Cymru?
Fe wnaeth Warren Gatland newid 12 o chwaraewyr o’r tîm ddechreuodd yn erbyn Portiwgal gyda Louis Rees-Zammit a Taulupe Faletau yn unig yn cychwyn eto.
Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Louis Rees Zammit, 13. George North, 12. Nick Tompkins, 11. Josh Adams,, 10. Dan Biggar, 9. Gareth Davies.
Blaenwyr: 1. Gareth Thomas , 2. Ryan Elias, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowlands, 5. Adam Beard, 6. Aaron Wainwright, 7. Jac Morgan (Capten), 8. Taulupe Faletau.
Eilyddion: 16. Elliot Dee, 17. Corey Domachowski, 18. Henry Thomas, 19. Dafydd Jenkins, 20. Taine Basham, 21. Tmos Williams, 22. Gareth Anscombe, 23. Rio Dyer.
Dywedodd asgellwr Cymru Josh Adams fod y garfan yn edrych ymlaen yn eiddgar i’r her yn erbyn Awstralia.
Dywedodd: “ Ni ‘di cael wythnos rili dda, wythnos gorau fi credo ers ni ddod mas ‘ma.
"Ni’n gwbod beth sydd ar ddiwedd y gêm ‘ma. Os ni’n gallu cael fuddugoliaeth ‘ma hwnna’n bwysig i ni. Ni ‘di siarad amdano a ma’ fe’n gêm bwysig i Awstralia hefyd.
"Ni’n gwbod bydd y gêm nos Sul yn un anodd ond ni fel carfan yn edrych ymlaen i’r sialens yna."
Pa mor dda yw Awstralia?
Mae Awstralia wedi ennill Cwpan y Byd ddwywaith, yn 1991 a 1999 ond mae’r tîm yn mynd trwy gyfnod o newid dan arweiniad eu hyfforddwr Eddie Jones. Os na fydd Awstralia yn llwyddo i fynd trwyddo i’r chwarteri – dyma’r tro cyntaf fyddan nhw wedi methu gwneud hynny yn eu hanes yng Nghwpan y Byd.
Beth mae’r arbenigwyr yn ei feddwl?
Cyn-chwaraewr Cymru, Rhys Patchell:
"Mae pawb yn ymwybodol o beth sy’n ddisgwyliedig gan Warren Gatland. A mae e’n dda iawn yn adeiladu narrative tu ôl y llen i ffwrdd o’r wasg.
"Ambell waith mae e’n neud hwnna’n gyhoeddus ond jyst ymhlith y garfan mae e’n esbonio fel mae’r wythnos yn edrych.
"A jyst adeiladu ar hunan hyder. Ambell waith mae e’n rhoi roced i rywun yn dawel a ti’n cael sbardun o hwnna.
"Ambell waith mae e’n neud e’n gyhoeddus ac ambell waith yn rhoi braich rownd rhywun a dweud ‘ti’n neud yn dda fan hyn’.
"Mae e’n gwybod beth sydd angen ar bawb yn y garfan.
"Dylse Cymru ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n ffefrynnau. Maen nhw wedi perfformio yn erbyn Ffiji sydd wedi dangos taw nid fluke oedd eu perfformiad yn erbyn Cymru trwy guro Awstralia."
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1705558378649448711
Cyn-gapten Cymru Gwyn Jones:
"Rwy’n credu bydd Cymru’n ennill nos Sul.
"Rwy’n credu fydd Cymru’n rhy drefnus ac yn rhy effeithiol i Awstralia.
"Fe fydd Cymru yn troi nôl at yr hyn sy’n gyfarwydd iddyn nhw ac yn hyderus yn ffisegol yn erbyn Awstralia yn enwedig yn absenoldeb rhai o’r blaenwyr mwy pwerus.
"Yn ogystal mae Eddie Jones wedi bod yn gyfrifol am lanast llwyr ers iddo gymryd drosodd.
"Mae ei ddewisiadau wedi methu, nid oes synnwyr i’w eilyddio ac mae ei gynadleddau i’r wasg yn embaras.
"Nid oes syndod fod ei hyfforddwr ymosod wedi ymddiswyddo dan ei deyrnasiad. Maen nhw’n colli gêm ar ôl gêm. Maen nhw’n methu bod yn garfan hapus."

Ble allwn i wylio’r gêm?
Bydd y gêm yn cael ei dangos ar S4C am 19:15.
Pwy yw’r ffefrynnau?
Fe gurodd Cymru Awstralia 29-25 yng Nghwpan y Byd yn Siapan yn 2019. Ond fe enillodd Awstralia o 39-34 yng Nghaerdydd yn Nhachwedd 2022 ar ôl bod ar ei hôl hi o 34-13 ar ôl 55 munud. Mae Cymru ar frig y grwp ac wedi curo Ffiji a gall buddugoliaeth sicrhau lle yn y chwarteri iddyn nhw. Ond gan fod Awstralia wedi colli yn erbyn Ffiji ac wedi dioddef anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae'r crysau cochion yn cychwyn fel ffefrynnau. Serch hynny, mae Awstralia wedi ennill 16 o’r 20 gêm ddiwethaf yn erbyn Cymru gan gynnwys tair yng Nghwpan y Byd. Roedd un o’r rhain yn y ffeinal efydd yn 2011 yn talu’r pwyth yn ôl pan gurodd Cymru nhw i ddod yn drydydd yn 1987.
Pwy arall sydd yn chwarae yng ngrŵp Cymru?
Cafodd Georgia a Phortiwgal gêm gyfartal 18-18 ddydd Sadwrn.
Sadwrn, 30 Medi: Ffiji v Georgia
Sul 1 Hydref: Awstralia v Portiwgal
Sadwrn 7 Hydref: Cymru v Georgia
Sul 8 Hydref: ffiji v Portiwgal
Tynged Grŵp C:
Os ydy Cymru’n curo Awstralia:
- Fe fydd Cymru trwyddo i’r chwarteri.
- Fe fydd Cymru’n ennill y grŵp os ydyn nhw’n osgoi colli yn erbyn Georgia yn eu gêm olaf neu os ydy Ffiji yn methu â churo Portiwgal neu Georgia.
- Fe fydd yn rhaid i Awstralia guro Portiwgal gan obeithio fod Ffiji yn methu â churo naill ai Georgia neu Portiwgal.
Os ydy Awstralia yn curo Cymru:
- Fe fydd yn rhaid i Gymru guro Georgia ( gan gymryd yn ganiataol fydd Ffiji ac Awstralia yn ennill eu gemau sydd ar ôl).
- Fe fydd y ddau dîm fydd yn mynd trwyddo i’r chwarteri yn cael eu penderfynu ar y canlyniadau yn erbyn ei gilydd, pwyntiau bonws a gwahaniaeth ceisiadau.
Ond….
- Nid yw’n bendant fydd y tri thîm ar frig yr adran yn ennill eu gemau sydd ar ôl. Fe gurodd Georgia Cymru ym mis Tachwedd 2022 a chael gêm gyfartal gyda Ffiji yn 2021.
- Er bod buddugoliaeth gan Bortiwgal yn erbyn Ffiji ac Awstralia yn annhebygol fe wnaethon nhw bethau’n anodd i Gymru a bydd yn rhaid i’w gwrthwynebwyr weithio’n galed i sicrhau pwyntiau bonws yn eu herbyn.