Newyddion S4C

Russell Brand yn ymateb am y tro cyntaf yn gyhoeddus

23/09/2023
Russell Brand

Mae Russell Brand wedi ymateb yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers i honiadau o ymosodiadau rhyw gael eu gwneud yn ei erbyn.

Dywedodd Mr Brand mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi bod yn wythnos “eithriadol a gofidus” ar ôl i honiadau o dreisio ac ymosod yn rhywiol gael eu gwneud yn ei erbyn.

Yn y clip fideo, fe ddiolchodd Mr Brand i’w gefnogwyr am eu cefnogaeth ac am “gwestiynu'r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno atoch”.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd Heddlu’r Met wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn honiad o ymosodiad rhyw yn erbyn Russell Brand.

Mewn datganiad, dywedodd y llu fod yr ymosodiad honedig wedi digwydd yn Llundain yn 2003.

Daw wedi i bedair dynes honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhyw rhwng 2006 a 2013, a hynny pan oedd y digrifwr a'r ymgyrchydd gwleidyddol yn gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.

Daeth yr honiadau yn gyhoeddus yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a rhaglen Dispatches ar Channel 4.

Mae Mr Brand yn gwadu’r honiadau’n gryf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.