Ffermwyr yn pryderu am fethiant cwmni cludo llaeth
Mae ffermwyr yng Nghymru yn wynebu “tipyn o bryder” yn ôl undeb amaethwyr yn dilyn adroddiadau fod un o ddosbarthwyr llaeth y DU wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Mae Lloyd Fraser, sydd â safleoedd yn Sir Drefaldwyn, Sir Benfro a Thorfaen, yn cludo a dosbarthu i rai o laethdai mwyaf y DU gan gynnwys Müller ac Arla.
Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Sadwrn, dywedodd cadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru Brian Walters; “Ma’ gofyn i laeth gael ei gasglu naill ai pob diwrnod neu bob yn ail ddiwrnod a dyw’r llaeth ddim yn cadw’n hirach na dau neu dri diwrnod a d’oes dim lle ar ffermydd i gadw llaeth mwy na hynny.
“Mae dipyn o bryder achos os nag yw e wedi cael ei gasglu mae’n rhaid taflu fe i ffwrdd a ma’ hynny’n golled ariannol yn dibynnu ar maint y ffermydd.
“O ran cwmnïau eraill mae’n rhaid i chi drefnu cael y loris yn y lle iawn ac os ydyn nhw’n rhyddhau y loris sy’ gyda Lloyd Fraser ar hyn o bryd er mwyn i’r dreifars fynd rownd i gasglu fe.
“Dyma’r broblem, ma’ tipyn o waith trefnu fan hyn i gael pobol i fynd rownd i gasglu’r llaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Alra Foods mai eu blaenoriaeth yw sicrhau bod “llaeth yn parhau i gael ei gasglu” a’u bod “wedi rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yn yr ardaloedd lle mae Lloyd Fraser yn gweithredu, sy’n cynnwys Sir Gaer, gogledd Cymru a’r Amwythig.”
Mewn ymateb gwleidyddol, dywedodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Craig Williams AS fod y newyddion yn “hynod o drist” a’u bod yn “gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r cwmni - yn enwedig staff o Four Crosses sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.
Dywedodd Russell George AS fod y "ffaith bod y prif laethdai wedi symud mor gyflym i roi cynlluniau yn eu lle, gan sicrhau y bydd casgliadau yn dal i ddigwydd heddiw a thros y penwythnos" yn cynnig sicrwydd.
Fe ychwanegodd Mr Walters: “Mae’n drist iawn oherwydd bod ffermwyr nawr yn wynebu bod y llaeth ddim yn cael ei gasglu heddi.
“Felly gobitho bod nhw’n gallu sorto hwn mâs go gyflym er mwyn i’r loris cael mynd rownd i gasglu’r llaeth a rhaid cofio hefyd bo’ ni wedi gweld cwymp yn y pris llaeth gyda rhai pobol wedi cael 30% o gwymp yn y pris yn ystod y chwe mis diwethaf felly mae’n diopyn o ofid i ffermwyr.
Mae Mr Walters wedi cadarnhau y fod yr undeb yn mynd i geisio gweitho gyda chwmniau i weld os ydyn nhw’n gallu cael unrhyw un arall i gasglu’r llaeth, ond os oes loriau yn gallu bod yn ffactor.