Newyddion S4C

'Nath fy nghalon i stopio': Dynes ifanc fu bron â marw ar ôl cael ei sbeicio’n siomedig gydag ymateb yr heddlu

Y Byd ar Bedwar 25/09/2023

'Nath fy nghalon i stopio': Dynes ifanc fu bron â marw ar ôl cael ei sbeicio’n siomedig gydag ymateb yr heddlu

Mae dynes 22 oed fu bron â marw ar ôl cael ei sbeicio yng Nghaernarfon y llynedd yn dweud ei bod yn teimlo nad yw Heddlu Gogledd Cymru wedi ei "chymryd o ddifri".

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Lucy Baum, o'r Groeslon ger Caernarfon: “Dwi’n teimlo fatha bod fi’n wast o amsar iddyn nhw, fatha bod matar fi ddim yn bwysig iddyn nhw.”

Daw sylwadau Lucy ar ôl iddi gael ei rhuthro i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans fis Chwefror y llynedd.

Roedd hi allan i ddathlu dod yn fam fedydd i blant ei ffrind, ac wedi bod mewn tair tafarn cyn mynd i glwb nos Copa. 

“Pan nes i gyrradd Copa, dwi’n cofio prynu diod, dwi cofio dawnsio ac ar ôl rhyw hannar awr nath Leah a Kate adael, ac yn fwya’ sydyn nes i just teimlo’n rili chwil, isio chwydu, on i wedi drysu, lot o bobol yn d’eud oni’n slurrio geiria’ fi. 

“Ond erbyn y diwadd, dwi’m yn cofio hannar ffordd drwy Copa.”

Pan wnaeth Cai, cariad Lucy, sylweddoli bod rhywbeth o’i le, fe aeth â hi adref i’w dŷ. Ond erbyn hyn roedd Lucy yn anymwybodol, felly fe alwodd am ambiwlans.

“Dwi’m yn cofio hyn fy hun, ond o be’ wnaeth Cai ddweud…nathan nhw lwyddo i gal fi mewn i’r ambiwlans, golau glas i Ysbyty Gwynedd, Cai yn dilyn tu ôl yn ei gar. 

“Ond be’ o’n i ddim yn gwbod, nes i ffeindio allan yn ‘Sbyty Gwynedd - na’th calon fi stopio yn nghefn yr ambiwlans.”

Ar ôl i Lucy ddeffro, fe ddywedodd staff yr ysbyty ei bod hi’n fwy na thebyg wedi cael ei sbeicio. 

“Oni’m yn coelio’r peth i fod yn onast. Ac wedyn iddyn nhw ddeud wrtha fi bod calon fi di stopio ar un pwynt, nes i ddechra beichio crio."

Fe gafodd Lucy sgôr GCS, sy’n mesur pa mor ymwybodol yw rhywun, o 3. Dyma’r sgôr isaf sy’n bosib, ac mae’n gysylltiedig gyda chyfradd uchel o farwolaeth. 

Teimlo fel ‘wast o amser’ i’r heddlu

“Ar ôl ca’l sgwrs efo Cai, nes i dd’eud da ni angan mynd at yr heddlu. Na’th Mam gal incident number, ond nath yr heddlu ddeud bod ni methu ‘neud lot oni bai fod gennyn ni rhyw fath o dystiolaeth.

Image
Llythur Lucy
Llun o’r llythyr gafodd Lucy gan Ysbyty Gwynedd

Er bod gan Lucy lythyr gan yr ysbyty sy’n dangos sgôr GCS o 3 a’r geiriau ‘spiked as legs heavy’, mae hi’n dweud nad oedd hyn yn ddigon i’r heddlu. 

Mae’n teimlo na wnaeth yr heddlu gymryd ei hachos o ddifrif.

“Sa nhw di medru mynd i Copa i ofyn am y footage, gena nhw mwy o awdurdod na be gennyn ni lly. 

“Ond y ffaith bod nhw heb neud hynna, dwi’m yn meddwl wnaethon nhw gymryd fi o ddifri o gwbl.

“Dwi’n teimlo fatha bod fi’n wast o amser iddyn nhw, fatha bod matar fi ddim yn bwysig iddyn nhw.”

Un erlyniad am sbeicio yn y pum mlynedd diwethaf yng Nghymru

Dim ond un erlyniad am y drosedd benodol o sbeicio sydd wedi bod yng Nghymru ers 2018 yn ôl gwybodaeth mae Y Byd ar Bedwar wedi ei dderbyn gan Wasanaeth Erlyn Y Goron.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu’r Gogledd: “Gall riportio cael eich sbeicio fod yn anodd, ond mae Heddlu Gogledd Cymru yma i helpu.

“Byddwn ni, fel sawl heddlu ar draws y wlad yn cyflwyno porth riportio ar-lein ar ein gwefan, a fydd, gobeithio yn gwneud hi’n haws annog pobl i riportio digwyddiadau o’r drosedd hon.

“Menywod yn bennaf sy'n cael eu targedu…mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod yn flaenoriaeth i ni.”

Yn ôl yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch, y rhesymau mwyaf cyffredin dros sbeicio unigolyn yw dwyn rhywbeth, neu ymosod ar rywun yn gorfforol neu’n rhywiol.

Mae ffigyrau Y Byd ar Bedwar yn dangos bod nifer yr adroddiadau o sbeicio wnaeth lluoedd heddlu Cymru dderbyn y llynedd wedi codi dros bedair gwaith ers 2018. 

Roedd cynnydd o fwy na 300% yn yr adroddiadau dderbyniodd Heddlu’r Gogledd. 

Yn ôl ffigurau dderbyniodd y rhaglen gan Wasanaeth Erlyn y Goron, dim ond un erlyniad am y drosedd benodol o sbeicio gafodd ei gofnodi ers 2018 ar draws Cymru gyfan. 

Yn ôl Dr. Pete Williams sy’n Ymgynghorydd yn Adran Frys Ysbyty Gwynedd, dydy hi ddim yn hawdd profi bod rhywun wedi cael ei sbeicio.

“Mae'n anodd iawn. Dydyn ni ddim yn profi am gyffuriau mewn gwirionedd.

“Mae profion ar gael, er enghraifft prawf wrin cyflym, ond dydy hwn ddim yn gywir iawn. 

“Ac mae'r profion sy'n gywir yn cymryd dyddiau i ddod yn ôl felly dydyn ni ddim yn cael y canlyniad hwnnw mewn cyfnod o amser sy'n glinigol ddefnyddiol.

Image
Dr. Pete Williams, Ymgynghorydd yn Adran Frys Ysbyty Gwynedd
Dr. Pete Williams, Ymgynghorydd yn Adran Frys Ysbyty Gwynedd

Llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y DU newid y gyfraith ynghylch y cyffur GHB sy’n aml yn cael ei ddefnyddio i sbeicio pobl. Bellach, os yw rhywun yn cal eu dal â GHB yn eu meddiant, maen nhw’n gallu wynebu hyd at 14 mlynedd dan glo.

“Mae’n gyffur arbennig o beryglus. Mae bron yn ddi-liw ac yn ddi-flas felly, mae'n anodd iawn canfod a yw wedi'i roi yn eich diod. 

“Gall cleifion golli ymwybyddiaeth yn gyflym a bod yn agored iawn i niwed. Rydyn ni wedi clywed am nifer o achosion o gleifion yn dod i'r ysbyty ac angen gofal critigol neu hyd yn oed bod cleifion yn marw.”

Mae Lucy nawr eisiau gweld pob tafarn yng Nghymru’n cyflwyno mesurau gwrth sbeicio er mwyn gwarchod pobl ar noson allan.

“Be swni’n licio gweld ydy’r sticeri ‘ma ti’n rhoi dros dy ddiod di i stopio rhywun roi rwbath ynddyn nhw - sa fo’n helpu lot.’

Image
Sticeri sy’n gwarchod diod
Sticeri sy’n gwarchod diod

Ond mae’r hyn ddigwyddodd yn dal i gael effaith ar Lucy. 

“Gena fi lot o anxiety i fynd allan rwan, dwi’n ymwybodol iawn, bob tro’n gwylio ‘niod i…Oni’n meddwl mod i’n saff yn Nghaernarfon. Dwi byth isio teimlo out of control fel y noson yna eto.”

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.