
'Gwirion bost': Penderfyniad i gael gwared ar fws i amgueddfa Sain Ffagan yn cythruddo gwirfoddolwyr
Mae’r penderfyniad i gael gwared â gwasanaeth bws oedd yn mynd â theithwyr i Sain Ffagan wedi cythruddo gwirfoddolwyr yn yr amgueddfa.
Roedd nifer o wirfoddolwyr yr amgueddfa genedlaethol awyr-agored, sy'n cofnodi hanes pensaernïaeth, diwylliant a ffordd o fyw'r Cymry, yn defnyddio’r bws er mwyn cyrraedd yno.
Fe wnaeth y cyngor gyhoeddi ym mis Awst y byddai'r bws rhif 32 rhwng canol Caerdydd a Sain Ffagan yn dod i ben.
Ond mae’r penderfyniad bellach wedi cael effaith ar brosiectau oedd yn cael eu cynnal yn yr amgueddfa oedd yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.
Mae bws 320 hefyd yn mynd i bentref Sain Ffagan ond mae’n daith hir ar droed wedyn i wirfoddolwyr sydd yn aml yn hŷn neu sydd ag anableddau.
Roedd prosiect Yr Ardd Gudd ar gyfer oedolion sydd ag anableddau wedi dioddef yn sgil y penderfyniad, meddai swyddog y prosiect Peter Bradley.
“Ar ddydd Llun roedden ni’n arfer cael 10 i 11 o wirfoddolwyr ond dim ond pump oedd yr wythnos yma,” meddai.
“Dyw hanner ein gwirfoddolwyr ddim yn gallu cyrraedd oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae un o’r gwirfoddolwyr yn talu am dacsi sy’n £14 bob ffordd. Dyw hynny ddim yn gynialadwy bob wythnos.
“Dyw e ddim yn deg ar rai o’r bobl sydd dan yr anfanteision mwyaf yn ein cymdeithas.”

‘Gwirion bost’
Dywedodd un gwirfoddolwr - David - nad oedd yn gallu defnyddio’r bws 320 am fod ganddo broblem efo’i bengliniau a methu cerdded o’r pentref.
“Dim ond pedwar ohonom ni sy’n dod fel arfer erbyn hyn,” meddai. “Mae lot mwy yn dod ar y bore Llun.”
Dywedodd gwirfoddolwr arall, Cath, bod canslo’r bws yn gam “uffernol”.
“Dy’n ni methu talu am dacsis am byth, mae’n mynd i gostio ffortiwn yn y pen draw,” meddai.

Dywedodd y cynghorydd Rhys Livesy sy’n cynrychioli Sain Ffagan ei fod wedi cyflwyno deiseb yn gwrthwynebu cau’r gwasanaeth ar 21 Medi.
Mae un o drigolion Sain Ffagan, Louise Van Laer, hefyd wedi sefydlu deiseb yn gwrthwynebu’r newid.
“Cafodd Sain Ffagan wobr amgueddfa’r flwyddyn yn 2019 ac mae hynny’n gydnabyddiaeth fyd-eang,” meddai.
“Mae peidio â’i wneud yn hygyrch i bobl yn wirion bost.”
Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth bws Caerdydd nad oedd gyda nhw’r cyllid er mwyn cynnal y gwasanaeth.
“Fe aethon ni drwy ein holl wasanaethau ac yn anffodus roedd rhai yn gweld fawr ddim defnydd rheolaidd, ac roedd y 32 yn syrthio i’r categori hwnnw.”