Newyddion S4C

Gweithwyr cynghorau Wrecsam a Chaerdydd yn ymestyn streic ar gasglu gwastraff

23/09/2023
Sbwriel

Bydd gweithwyr sy'n perthyn i undeb Unite ar gynghorau Wrecsam a Chaerdydd yn ymestyn cyfnod o streicio yr wythnos nesaf, a hynny o ganlyniad i anghydfod cyflog. 

Bydd aelodau’r undeb Unite yn streicio am gyfnod o dair wythnos, rhwng 25 Medi a 15 Hydref wedi iddyn nhw wrthod cynnig mwyaf diweddar eu cyflogwyr. 

Daw’r cyfnod bellach o streicio yn dilyn gweithredu diwydiannol yn gynharach y mis, rhwng 4-17 Medi. 

Bydd y streic yn effeithio ar gasgliadau sbwriel a chanolfannau ailgylchu yn arbennig.

Daw wedi i’r undeb wrthod codiad cyflog o £1,925 i weithwyr oedd yn ennill dan £49,950.

Dywedodd yr undeb fod y cynnig yn llai na’r llynedd, ac yn golygu “toriad mewn cyflog” o ystyried chwyddiant. 

Fe fydd y cyfnod o streicio yn cael effaith “mawr” ar wasanaethau casglu biniau ac ailgylchu yn yr ardaloedd hyn, meddai’r undeb. 

Dywedodd Sharon Graham, sef ysgrifennydd cyffredinol Unite: “Ar ôl dioddef blynyddoedd o ddiffyg cynnydd yn ein tâl, mae ein haelodau yng nghynghorau Caerdydd a Wrecsam wedi ymrwymo i ymladd am gynnig teg. 

“Rydym yn galw ar arweinwyr gwleidyddol y cynghorau i weithredu, ac i roi’r gorau i guddio tu cefn i’r corff cyflogau cenedlaethol gan drafod yn uniongyrchol gyda ni.

“Fe fydd Unite yn cefnogi ein haelodau yn ystod y streic.”

'Sefyllfa ariannol anodd'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "chwyddiant yn uchel iawn a chamreoli economaidd gan Lywodraethau'r DU yn olynol dros y 13 mlynedd diwethaf wedi arwain at y sefyllfa ariannol anoddaf ers dechrau datganoli".

"Fel rhan o'n hymdrechion i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rydym yn darparu mwy o gyllid i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon, gyda chynnydd o 7.9% ledled Cymru ar sail debyg-am-debyg.

"Mae hyn yn dilyn cynnydd o 9.4% yn 2022-23. Ond rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i gwrdd â'r heriau a rennir sy'n ein hwynebu."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (yr WLGA): "“Mae partneriaeth gymdeithasol yn hollbwysig i lywodraeth leol. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu WLGA ac arweinwyr Caerdydd, Gwynedd a Wrecsam â chynrychiolwyr undebau llafur Unite yng nghynhadledd flynyddol WLGA i wrando ar eu pryderon am yr anghydfod diwydiannol presennol.

“Byddai’r cynnig cyflog llawn a therfynol i gyflogwyr cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni yn rhoi codiad cyflog o £1,925 y flwyddyn o leiaf i bob gweithiwr o 1 Ebrill 2023 (wedi’i ôl-ddyddio), sydd ar gyfer y rhai ar y cyflogau isaf yn cyfateb i gynnydd. o 9.42%. Mae hyn yn golygu y bydd cyflog wedi cynyddu £4,033 (22%) dros y ddwy flynedd ers Ebrill 2021.

"Rydym yn annog Unite i ohirio ei streiciau arfaethedig fel rhan o anghydfod cyflog cenedlaethol yr NJC fel y gellir talu dyfarniad cyflog 2023 i weithwyr."

'Angen cefnogaeth'

Yn ôl ymchwil Unite, mae gweithwyr yr awdurdodau lleol bellach yn ddibynnol ar fanciau bwyd er mwyn cefnogi eu teuluoedd. 

Dywedodd eu bod wedi dioddef toriad o oddeutu 20% yn eu cyflogau dros y ddegawd ddiwethaf. 

“Mae gweithwyr Awdurdod Lleol Cymru wedi gweld gostyngiad yn eu cyflog yn ystod y blynyddoedd diwethaf," meddai Peter Hughes, sef Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite ar gyfer Cymru.

“Er hynny, mae arweinwyr sawl un cyngor yn parhau i wneud cynigion sy’n gyfystyr â thoriad cyflog. 

“Nid yw ein haelodau yn cael eu cefnogi’n ddigonol ac rydym am barhau i gynnal streiciau nes bod yr awdurdodau lleol yn cytuno i drafod hefo ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.