'Lle bynnag ma’ Ifan, ma’ gole': Taith chwaraewr rygbi ifanc yn dilyn damwain beic modur
'Lle bynnag ma’ Ifan, ma’ gole': Taith chwaraewr rygbi ifanc yn dilyn damwain beic modur
Cyn dioddef damwain beic modur bron i ddwy flynedd yn ôl, roedd Ifan Phillips yn chwarae rygbi yn gyson i'r Gweilch ac Abertawe, ac wedi bod yn hyfforddi gyda charfan Cymru yr haf hwnnw.
Yn wreiddiol o Grymych ond bellach yn byw yn Drefach, Cross Hands, mae Ifan, 25 oed, yn siarad am y tro cyntaf mewn manylder am ei brofiad erchyll mewn rhaglen ar S4C.
Ei freuddwyd oedd chwarae rygbi dros Gymru.
Treuliodd ei blentyndod yn chwarae’r bêl hirgron a’i swydd oedd chwarae gyda thîm y Gweilch yn Abertawe.
Roedd am ddilyn ôl troed ei dad, y bachwr a chyn gapten Castell-nedd a Chymru, Kevin Phillips.
Ond rhoddodd y ddamwain beic modur ddiwedd ar y freuddwyd.
Dywedodd Ifan: “Pan wy’n siarad ambiti fe, mae e felse bo’ fi’n siarad am stori rhywun arall, a dwi ddim yn siarad am brofiad fy hunan.
“Y cynhara’ dwi’n gallu dod yn gyfarwydd gyda pethe a cynhara’ dwi’n gallu dod i’r realisation mai hwn yw sefyllfa fi a hwn yw mywyd i, y rhwydda’ ma’ pethe’n mynd.”
Allan yn reidio ei feic modur gyda’i ffrind gorau Josh oedd Ifan ar ddiwrnod y ddamwain. Josh fu’n dyst i’r cyfan ac arhosodd gyda Ifan ar ochr yr heol yn Abertawe nes i’r ambiwlans gyrraedd.
Dywedodd Josh ar y rhaglen: “I remember the first thing I did when I got up was turn around to look back where Ifan was... and then the first thing I seen... was a naked leg. The only way I could recognise it was by the trainer, and I could tell that was Ifan’s leg there.”
Cymorth teulu
Yn gefn i Ifan drwy ei brofiad mae ei deulu, sydd bob amser yn barod i helpu, meddai.
Y neges gyntaf anfonodd Ifan ar ôl y ddamwain oedd i'w fam.
“Wy’n sorry” meddai yn y neges, gan ymddiheuro am sawl peth – am y ddamwain a'r canlyniad na fyddai’n gallu chwarae rygbi eto.
Fe helpodd ei deulu Ifan i wneud ei gartref yn fwy hygyrch at ei ddefnydd, gan gynnwys symud ei wely o’r lloft i lawr i’r stafell fyw.
Dywedodd Ifan: “Un o’r pethe anodda’ i fi orfod dod i delerau gyda rili, o’dd hi’n anodd iawn i weld y gwely lawr llawr.”
Er yr holl anawsterau sydd yn wynebu Ifan, mae’n byw ei fywyd gyda ysbryd cadarn a phenderfynol.
Lai na dwy flynedd ers y ddamwain, mae’n chwilio am her newydd ac wedi dechrau canŵio, yn helpu gyda hyfforddi tîm rygbi Crymych, a hyd yn oed wedi dysgu ei hun i ganu Yma o Hyd ar y gitâr.
Dywedodd tad Ifan, Kevin Phillips: “Lle bynnag ma’ Ifan ma’ gole, a neith e ni’n browd ’to, s’dim dowt.”
Fe fydd y rhaglen arbenning Ifan Phillips: Y Cam Nesaf yn cael ei darlledu ar S4C nos Iau, 28 Medi am 21.00
Hefyd ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill