Deiseb yn galw am ddefnyddio enw Cymraeg Ynys Môn yn unig
Mae deiseb wedi ei sefydlu yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai dim ond yr enw Cymraeg ar Ynys Môn sydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Bryn Thomas, a hyd yma cwta 500 o enwau sydd wedi ei llofnodi.
Caiff pob deiseb i Senedd Cymru eu hystyried am ddadl yn y Senedd os bydd 10,000 o bobl yn eu llofnodi.
Mae'r ddeiseb yn galw am "roi'r gorau i ddefnyddio'r enw 'Ynys Môn' a defnyddio'r enw 'Ynys Môn' yn unig neu ei fyrhau i 'Môn'.
"Nid oes gan rai siroedd eraill yng Nghymru enw Cymraeg a Saesneg."
'Helpu'
Cynnig y ddeiseb yw unai galw'r fam ynys yn Ynys Môn yn unig, neu defnyddio Môn er mwyn hwylustra:
"Mae Môn yn hawdd ei ynganu i bawb ym mhob iaith.
"Mae dau enw ar sir yn ddryslyd i dwristiaid, ond bydd defnyddio un enw yn helpu i gadw treftadaeth Gymreig yr ynys yn fyw."
Daw wedi i Awdurdod Barc Cenedlaethol Eryri benderfynu defnyddio ei enw Cymraeg yn unig, ac enw Cymraeg yr Wyddfa.
Yn dilyn hynny fe benderfynodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wneud yr un fath.