Newyddion S4C

Llinos Medi i geisio cael ei henwebu fel ymgeisydd Plaid Cymru Ynys Môn

Llinos Medi

Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, yn gobeithio cael ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf i senedd San Steffan.

Mae hi wedi cyhoeddi ei bwriad i roi ei henw ymlaen i'r blaid yn lleol y mis nesaf. 

Mewn datganiad, dywedodd Ms Medi: “Rwyf wedi bod yn ystyried dyfodol gwleidyddol ein hynys am amser maith a dyma’r rheswm dwi wedi penderfynu cyflwyno fy enw fel Ymgeisydd Seneddol ar gyfer etholaeth Ynys Môn yn San Steffan. 

“Cefais fy magu ar yr ynys yma, dwi’n fam yn magu plant ar yr ynys, mae ffrindiau a theulu gennai ar yr ynys. Mae fy ngwreiddiau yma.

“Dyma’r rheswm dwi eisiau fod yn llais i’m cymunedau, ar gyfer Ynys Môn. 

“Mae’r chwe blynedd dwi ‘di treulio fel arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi sicrhau fy mod i wedi paratoi at yr heriau mae ein hynys yn eu hwynebu. 

“Dyma sy’n fy ysgogi i fod yn llais i Ynys Môn yn San Steffan.”

Mae hi eisoes wedi ennill cefnogaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, a ddywedodd am Llinos Medi: "Mae hi wedi profi ei hun fel arweinydd eithriadol, sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, nid siarad gwag."

Y Ceidwadwr Virginia Crosbie sy’n cynrychioli Ynys Môn yn San Steffan ar hyn o bryd. Enillodd hi'r sedd yn 2019, gyda mwyafrif o 1,968.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.