Teithwyr heb docyn trên i dderbyn dirwy
Bydd teithwyr sydd heb brynu tocyn ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn wynebu dirwy o ddydd Llun ymlaen.
Mae'r cwmni trafnidiaeth yn dweud bydd teithwyr heb docyn yn derbyn dirwy o £20, neu ddwbl pris eu tocyn - pa bynnag un sydd fwyaf.
Fe all y ddirwy godi i £100 yn y dyfodol, fel sydd mewn grym ar hyn o bryd rhwng gorsafoedd Yr Amwythig a Birmingham International yn Lloegr.
Bydd y dirwyon yn cael eu rhoi i deithwyr sydd yn teithio rhwng Caerfyrddin a gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren, yn ogystal â gwasanaethau Metro De Cymru newydd.
Cyngor Trafnidiaeth Cymru yw prynu tocyn ar-lein, yn yr orsaf neu trwy’r system pay as you go.
Ychwanegodd y cwmni bod rhai gorsafoedd heb lefydd i dalu ac ni fydd teithwyr yn cael eu dirwyo os ydyn nhw'n dechrau eu taith o'r gorsafoedd hynny.
Rhybuddiodd TrC bod dal angen i deithwyr "brynu tocyn neu dalu am deithio o hyd gan y byddwch yn agored i gosbau eraill neu hyd yn oed erlyniad."
Dyma'r gorsafoedd sydd heb gyfleusterau talu: Cwmbach, Dinas Rhondda, Gilfach Fargoed, Fernhill, Garth, Glanyfferi, Pencoed, Penrhiw-ceibr, Pontlotyn, Prees, Sarn, Tir-phil, Troed-y-rhiw, Wildmill, Wrenbury, Ynyswen, Yorton, Ystrad Rhondda, Y Pîl, Y Tyllgoed.
Mae nifer o resymau gwahanol y gallwch dderbyn dirwy, gan gynnwys prynu'r math o docyn anghywir.
Fe allwch dderbyn dirwy os ydych chi:
- yn teithio heb docyn dilys
- yn teithio mewn cerbyd Dosbarth Cyntaf gyda thocyn Safonol
- yn methu dangos Cerdyn Rheilffordd briodol ar gyfer tocyn rhatach
- yn 16 oed neu’n hŷn ac yn defnyddio tocyn plentyn
- yn teithio y tu hwnt i’r gyrchfan ar eich tocyn neu ar wasanaeth trên lle nad yw eich tocyn yn ddilys