Undeb Rygbi Cymru yn wynebu cyfarfod arbennig a phleidlais diffyg hyder
Mae Undeb Rygbi Cymru yn wynebu Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol, gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn y cadeirydd Richard Collier-Keywood.
Undeb Ardal Morgannwg Ganol sydd wedi arwain y galwadau.
Maen nhw wedi eu lleoli o fewn rhanbarth y Gweilch.
Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r posibilrwydd y gallai Undeb Rygbi Cymru gael gwared â'r rhanbarth.
Mae’n fwriad gan Undeb Rygbi Cymru i ailstrwythuro’r drefn bresennol gan gwtogi niferoedd y rhanbarthau o bedwar o dri.
Ac mae pryderon bod yr Undeb yn ffafrio uno’r Gweilch a Chaerdydd.
Does dim dyddiad wedi ei nodi ar gyfer y cyfarfod cyffredinol eithriadol, ond mae gan Undeb Rygbi Cymru saith wythnos i'w gynnal.
Mae'r undeb eisoes wedi dweud y byddai cynnal cyfarfod o'r fath yn achosi niwed sylweddol i rygbi Cymru.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ddatganiad brynhawn Sul yn cadarnhau bod cais gan glybiau cymunedol wedi ei dderbyn i alw Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.
Mae'r datganiad yn nodi iddyn nhw gyhoeddi cynlluniau ar gyfer Dyfodol y Gêm Elît yng Nghymru ddiwedd mis Hydref 2025, "yn dilyn proses ymgynghori helaeth."
"Rydym bellach yn canolbwyntio ar weithredu’r cynllun hwnnw ac rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino gyda’n rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd diwethaf i gytuno ar gonsensws o safbwynt y gweithrediad hwnnw.
"Mae’r gwaith manwl hwn wedi’i wneud gyda’r clybiau proffesiynol, y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) a chynrychiolwyr y chwaraewyr, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau consensws ar gyfer camau nesaf y broses.
"Gofynnwn i bob rhanddeiliad barhau i weithio gyda ni. Rydym yn cydnabod bod newid yn heriol, ond mae’n hanfodol ar gyfer lles hirdymor y gêm yma yng Nghymru," meddai'r datganiad.
Llun: Asiantaeth Huw Evans