Caerdydd: Menyw 47 oed yn marw ar ôl 'digwyddiad meddygol' ar stryd yn y ddinas
Mae menyw 47 oed wedi marw ar ôl iddi gael problemau meddygol ar stryd yng nghanol Caerdydd.
Cafodd Heddlu’r De eu galw i Heol y Tollty yn y brifddinas am 13.25 brynhawn ddydd Sul.
Yn ôl y llu, roedden nhw'n ymateb i adroddiadau bod menyw yn dioddef problemau gyda'i hiechyd ar y stryd.
Dyw'r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus.