£620,000 i hybu'r iaith Aeleg yn yr Alban
Bydd £620,000 yn cael ei roi i hybu twf yr iaith Aeleg yn yr Alban yn ôl Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Kate Forbes.
Daeth ei chyhoeddiad ar ddechrau wythnos Gaeleg y Byd, gyda'r arian yn cynnwys £200,000 ar gyfer y gwasanaeth cyfryngau Gaeleg, MG Alba, er mwyn eu cynorthwyo i ddarparu "cynnwys o safon uchel."
Mae'r datganiad yn cyfeirio yn benodol at ail gyfres o'r ddrama drosedd An t-Eilean.
Yn ôl Ms Forbes, mae llwyddiant y ddrama hon yn "profi fod galw yn rhyngwladol am gynnwys Gaeleg o safon uchel."
Mae ymchwil diweddar yn awgrymu fod y cyfryngau yn yr iaith Aeleg yn cefnogi 340 o swyddi yn Yr Alban, gyda 160 ohonyn nhw ar ynysoedd y wlad.
Bydd y llif newydd o arian hefyd yn cynorthwyo'r ymdrechion i sefydlu canolfan ddiwylliannol gyntaf yr iaith Aeleg yn Ucheldiroedd yr Alban.
A bydd cyfran o'r arian hefyd yn mynd tuag at wella strwythur Sabhal Mor Ostaig ar Ynys Skye – sef yr unig goleg cyfrwng Gaeleg.
Yn ôl Ms Forbes, mae Wythnos Gaeleg y Byd yn ddathliad "arbennig" eleni, gan mai dyma'r gyntaf ers i'r Aeleg gael ei chydnabod yn swyddogol yn Neddf Ieithoedd yr Alban.
Daeth y ddeddf honno i rym dri mis yn ôl, wrth i Albanwyr ddathlu Diwrnod Andreas Sant ar 30 Tachwedd.
Deddf Iaith
Bellach, mae grymoedd gan weinidogion yr Alban i gomisiynu ymchwil i ddefnydd Gaeleg yr Alban, gan ystyried safonau dysgu'r iaith.
Mae'r mesurau newydd yn y ddeddf hefyd yn rhoi'r hawl i rieni ofyn am sefydlu ysgol Aeleg yn eu hardal.
Bydd cefnogaeth ar gael er mwyn creu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol mewn cymunedau Gaeleg eu hiaith.
Y nod, yn ôl Llywodraeth yr Alban yw galluogi gweinidogion i dargedu eu cefnogaeth yn well, er mwyn ceisio sicrhau twf yr iaith.
Mae'r ddeddf hefyd yn galluogi rhieni ym mhob rhan o'r Alban i ymgeisio am le mewn meithrinfeydd a dosbarthiadau blynyddoedd cynnar Gaeleg.
Bydd targedau yn cael eu cyflwyno hefyd er mwyn ceisio cynyddu'r niferoedd sy'n siarad a dysgu Gaeleg.
Yn 2022, roedd ystadegau'r cyfrifiad yn dangos bod gan 130,161 o bobl yn yr Alban rai sgiliau yng Ngaeleg yr Alban, sy'n un o'r ieithoedd Celtaidd.
