Arestio dau wedi i ddynes farw mewn gwrthdrawiad
06/06/2021
Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr nos Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ym mhentref Laleston ychydig ar ôl 18.30 nos Sadwrn, 5 Mehefin. Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys un car, sef Volkswagen Golf arian.
Mae dau ddyn, y naill yn 32 a'r llall yn 37, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus. Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.
Llun: Google