Y rheolau fydd yn newid wrth i Gymru symud i lefel rhybudd un
Bydd Cymru yn symud yn raddol i lefel rhybudd un o ddydd Llun wrth i gyfraddau Covid-19 barhau yn isel.
Daeth y cadarnhad gan y Prif Weinidog ddydd Gwener wrth i Mark Drakeford ddatgelu’r manylion llawn yng nghynhadledd y llywodraeth i’r wasg.
Bydd gemau pêl-droed a chyngherddau gyda hyd at 10,000 o bobl yn cael ail-ddechrau o ddydd Llun ymlaen.
Bydd 30 o bobl hefyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored mewn gerddi preifat, a thair aelwyd yn cael ffurfio un aelwyd estynedig.
Er y newid, mae’r llywodraeth wedi pwysleisio mai proses “raddol” fydd hon, yn sgil “pryder cynyddol” am ledaeniad amrywiolyn delta.
Beth fydd yn newid o ddydd Llun, 7 Mehefin?
• Bydd 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored ac mewn llefydd cyhoeddus.
• Bydd digwyddiadau fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon yn cael cymryd lle – ar gyfer 4,000 o bobl sy’n sefyll, a 10,000 o bobl yn eistedd.
Ar gyfer cynnal digwyddiadau a gweithgareddau sylweddol, fe fydd yn rhaid i drefnwyr gynnal asesiad risg llawn a chyflwyno mesurau i atal lledaeniad Covid-19, gan gynnwys pellhau cymdeithasol.
Newidiadau pellach
Bydd yr ail gam ar gyfer symud i lefel rhybudd un yn digwydd yn ddiweddarach ym mis Mehefin, gyda’r llywodraeth yn ystyried newidiadau pellach yn ddibynnol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus.
Ymhlith y newidiadau fydd yn cael eu hystyried bydd:
• Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
• Cynyddu’r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau wedi’u trefnu o dan do.
• Agor canolfannau sglefrio iâ.