
Powys yn bwriadu cynnig addysg Gymraeg i blant o Loegr
Mae Powys yn bwriadu cynnig addysg Gymraeg i blant o Loegr fel rhan o bartneriaeth newydd gyda’r siroedd sydd dros y ffin.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth penderfynodd cynghorwyr Cyngor Powys ddilysu Partneriaeth Strategol y Mers.
Bydd Powys yn cydweithio â Sir Fynwy, Sir Henffordd, a Sir Amwythig ar bynciau gan gynnwys trafnidiaeth, tai, yr amgylchedd ac ynni.
Dywedodd deiliad portffolio addysg y cyngor, Pete Roberts bod yna “lawer o deuluoedd yng Nghroesoswallt sy’n dod o gefndiroedd oedd yn siarad Cymraeg”.
“Mae gan Groesoswallt yr unig Gylch Meithrin y tu allan i Gymru," meddai.
“Felly rydw i’n gobeithio mai un o’r cyfleoedd fydd gweithio gyda chydweithwyr yng Nghroesoswallt ac ar hyd y ffin i ymestyn y gallu i deuluoedd gymryd rhan mewn addysg iaith Gymraeg.”

‘Cysylltiadau’
Dywedodd arweinydd y cyngor James Gibson-Watt ei fod yn gallu gweld Lloegr drwy ffenestr ei gartref.
“Felly rydw i’n deall y cysylltiadau yma,” meddai.
Ychwanegodd bod Wrecsam hefyd yn cymryd diddordeb yn y cytundeb.
“Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn atgynhyrchiad o Bartneriaeth Canolbarth Cymru sydd gennym gyda Cheredigion sy’n rhywbeth hollol wahanol,” meddai.