Newyddion S4C

Merch naw oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan dractor

19/09/2023
Naomi Sarah Ferrans

Mae merch naw oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan dractor tra'n reidio ei beic yn yr Alban.

Roedd Naomi Sarah Ferrans ar ei beic yn New Cumnock, sef ei thref enedigol, pan gafodd hi ei tharo gan dractor oedd yn tynnu trelar ddydd Llun. 

Dywedodd Heddlu'r Alban fod y gwasanaethau brys wedi bod yno a bod Naomi wedi marw yn y fan a'r lle. 

Cafodd y ffordd ei chau am fwy na saith awr.

Dywedodd yr Arolygydd Craig Beaver: "Mae ein meddyliau ni gyda theulu a ffrindiau Naomi yn y cyfnod anodd yma ac rydym yn gofyn i'w preifatrwydd nhw gael ei barchu.

"Mae ein hymholiadau yn parhau ac rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn dyst i'r digwyddiad a sydd heb siarad efo swyddogion yn barod i gysylltu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.