Heddlu yn apelio wedi gwrthdrawiad difrifol yn Frongoch ger Y Bala
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Frongoch ger Y Bala.
Derbyniodd yr heddlu alwad am tua 11:55 ar 10 Medi i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur gwyn a fan wen ger y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn Frongoch.
Roedd y gwasanaethau brys yn bresennol ac fe gafodd un dyn ei gludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol.
Mae'r dyn bellach wedi cael gadael yr ysbyty ac wedi dychwelyd adref.
Dywedodd PC Anna Jolley: “Dwi’n apelio ar unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu oedd yn gyrru rhwng y Bala a Thrawsfynydd cyn y gwrthdrawiad ac wedi gweld y naill gerbyd, neu sydd â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â’r heddlu."
Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod 23000863740.