Un o gynghorau Cymru yn ystyried defnyddio AI i ateb cwestiynau’r cyhoedd
Mae un o gynghorau Cymru yn ystyried defnyddio AI i ateb cwestiynau’r cyhoedd.
Dywedodd prif swyddog llywodraethol Cyngor Sir y Fflint y byddai deallusrwydd artiffisial yn gallu llenwi twll yn sgil diffyg staff yn eu canolfannau ‘Sir y Fflint yn Cysylltu’.
“Mae ‘chat bots’ yn fath o ddeallusrwydd artiffisial,” meddai Gareth Owens. "Maen nhw’n gallu ateb cwestiynau syml.
“Dy’n nhw ddim yn gallu cymryd lle unigolyn go iawn ond os yw lot o bobl eisiau gofyn cwestiwn syml yn unig gall hynny gael ei ateb ar eu rhan gan rywbeth ar wahân i fod dynol,” meddai.
Roedd meddalwedd AI gan gynnwys ChatGPT dan ystyriaeth er mwyn datrys y broblem, meddai.
'Dim gobaith'
Awgrymodd y Cynghorydd Linda Thew y byddai defnyddio deallusrwydd artiffisial yn bosibilrwydd.
“Mae yna lawer iawn o bwysau ar y staff i wybod popeth ac mae’n swydd anodd ofnadwy,” meddai.
“Fe allen ni fynd i lawr llwybr AI er mwyn ateb cwestiynau syml.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge bod aelodau etholedig yn cael trafferth cael atebion gan y canolfannau ac felly “does dim gobaith gan y cyhoedd”.